Yn ôl i brif wefan CBCDC

Adolygiadau Gwych i’n Graddedigion yn Carmen yr ENO

11 Mehefin 2015

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera

 

“Mae Justina Gringyte yn awdurdodol yn y rôl deitl”
The Guardian

Gydag un o’n graddedigion Justina Gringyte yn y rôl deitl, mae Carmen yr ENO yn cael adolygiadau gwych yn y cyfryngau. Ac mae ei chyd-raddedig Rhian Lois hefyd yn cael ei chanmol am ei pherfformiad fel Frasquita.

“Roedd Frasquita disglair ei thôn Rhian Lois yn amlwg ymhlith y cymeriadau cefnogi”
The Guardian

Mae’r Carmen hon sydd wedi ei lleoli yn nyddiau olaf cyfundrefn Franco yn Sbaen, yn adfywiad o gynhyrchiad nodedig y cyfarwyddwr Catalwanaidd Calixto Bieito o opera danllyd Bizet yn 2012.

“Rhian Lois…y Frasquita mwyaf graenus a haerllug…yr ydych yn debygol o’i gweld”
What’s On Stage

Os hoffech weld y perfformiad drosoch eich hun, darlledir Carmen yn fyw mewn sinemâu fel rhan o ENO Screen.

“Mae Justina Gringyte, sydd newydd ei choroni’n Ganwr Ifanc y Flwyddyn yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol, yn Garmen wych: anorchfygol ac eto’n annirnadwy, synhwyrus ac eto’n fregus, gyda nwydusrwydd hudol ei mezzo tôn llawn”
What’s On Stage