Longyfarchiadau mawr i Michael Lowe, enillydd Gwobr Ian Stoutzker eleni. Dyfernir y wobr yn flynyddol i berfformiwr cerddoriaeth gorau’r Coleg.
Mae Michael, y bariton (a welir yn y llun uchod gydag Ian Stoutzker), yn fyfyriwr llais yn ei drydedd flwyddyn. Roedd yn cystadlu yn y rownd derfynol yn erbyn Chanae Curtis (soprano), Emyr Wyn Jones (bas bariton), Charlotte MacClure (feiolin).
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Neuadd Dora Stoutzker y Coleg gerbron panel o feirniaid: Lucy Gould (feiolinydd yn Nhriawd Piano Gould), Cyfarwyddwr Artistig Canwr y Byd Caerdydd David Jackson, y bariton a’r cyfarwyddwr operatig Donald Maxwell a’r chwaraewr corned rhyngwladol Jeremy West.
Mae enillwyr blaenorol Gwobr Stoutzker Prize yn cynnwys Trystan Llyr Griffiths, Tianhong Yang a Reisha Adams.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook