Yn ôl i brif wefan CBCDC

Swydd Newydd Hanesyddol i James

16 Gorffennaf 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Pres

Llongyfarchiadau i James Wigfull, chwaraewr trombôn a raddiodd yn ddiweddar, ar ei swydd newydd yn perfformio gyda His Majestys Sagbutts & Cornetts.

Adnabyddir y grŵp rhyngwladol enwog hwn o chwaraewyr offerynnau chwyth penigamp – sy’n arbenigo mewn chwarae cerddoriaeth y Dadeni a Baroc mewn arddulliau hanesyddol priodol ac ar offerynnau traddodiadol – fel ‘grŵp rhagorol o’i fath.’

James a Jeremy West yn recordio Early Music Show BBC Radio 3

Datblygodd James ddiddordeb cryf mewn Cerddoriaeth Gynnar a pherfformio pres hanesyddol yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Brenhinol Cymru, ac ef oedd y chwaraewr Modgorn Bas (trombôn y Dadeni) yng Nghonsort Pres CBCDC (prif lun), a gyfarwyddwyd gan Jeremy West, sydd hefyd yn Gymrawd Anrhydeddus CBCDC.

“Fe’m cyflwynwyd i’r modgorn yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, pan oeddwn yn ffodus iawn i fod yn rhan o gyngerdd ‘Venetian Virtuosi’ Adam Woolf yng Nghadeirlan Llandaf,” meddai James. “Yn dilyn llwyddiant y cyngerdd hwn, creodd Kevin Price (Pennaeth Pres) fwy o gyfleoedd i chwaraewyr Pres chwarae’r repertoire cynnar. Rhoddodd hyn y cyfle i mi weithio gyda Jeremy West, a roddodd ragor o fewnwelediad i mi i fyd y repertoire rhyfeddol hwn. Dros y tair blynedd nesaf trefnodd Kevin wahanol gyngherddau, gan gydweithio gyda Jeremy a cherddorion arbenigol eraill, yn cynnwys Maggie Faultless a Martin Ennis.”

“Dros gyfnod o bedair blynedd yng ngrŵp cornet a modgorn y Coleg, roedd hi’n bleser gweld James yn cydio yn y cyfle ac yn ei gofleidio o’r cychwyn cyntaf. Ers graddio yn 2014 mae wedi parhau i ddatblygu yn y maes ac erbyn hyn mae’n chwarae ar ei orau; mae hyn yn wych i’w weld.”
Jeremy West, chwaraewr cornet gyda HMSO, a Chymrawd CBCDC

Ers ei ffurfio yn 2011, mae consort CBCDC wedi perfformio mewn nifer o leoliadau nodedig yn cynnwys Capel King’s Caergrawnt, Capel Coleg Sant Ioan a Neuadd Fawr Coleg Girton Caergrawnt a gosber gyda Robert King yng Nghapel Southwark, Llundain.

“Mae athrylith, greddf broffesiynol a haelioni personol Jeremy West wedi cyfuno i greu ensemble unigryw a rhagorol sy’n cyfrannu at gryfder a dyfnder Pres CBCDC ac wedi arwain at gyfleoedd proffesiynol ar y lefel uchaf ar gyfer ein myfyrwyr”
Kevin Price, Pennaeth Pres