Yn ôl i brif wefan CBCDC

Erthygl yn y Guardian am Ben sydd ar ei ffordd i Gaeredin

5 Awst 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Mae Ben Norris, bardd, dramodydd, actor a myfyriwr ôl-radd CBCDC, ar ei ffordd i Gaeredin yr haf hwn gyda’i sioe un dyn wobrwyedig, The Hitchhiker’s Guide to the Family, sydd hefyd yn Brosiect Perfformio Unigol ar gyfer ei radd actio yma yn CBCDC.

Gydag erthygl amdani yn y Guardian y penwythnos hwn, mae’r ddrama’n dilyn taith Ben i bob lle y bu ei dad yn byw ynddynt, ac mae newydd ennill Gwobr IdeasTap Underbelly – sy’n golygu y bydd yn cael ei pherfformio yn Big Belly yr Underbelly drwy gydol tymor gŵyl Caeredin.

Mae The Hitchhiker’s Guide of the Family yn rhan o asesiad ôl-radd terfynol Ben ar gyfer ei radd actio. Cynhaliwyd darnau perfformio’r myfyrwyr ôl-radd eraill yn y Coleg yr wythnos ddiwethaf.

Mae sawl un o fyfyrwyr blaenorol hefyd wedi mynd â gwaith a ddechreuodd fel un o’u darnau perfformio i Gaeredin, neu maent yn creu gwaith tebyg gyda’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt. Mae Greg Shewring newydd berfformio darn newydd ym Mryste yn dilyn ei sioe un dyn blaenorol Guttermouth ac mae Ella Cook a Danyn Mellor ill dau yn mynd a’u sioeau i leoliadau yng Nghaeredin.

“Bydd y myfyrwyr yn gweithio ar y darnau perfformio hyn ar ôl eu stondin actio a’u perfformiadau cyhoeddus” meddai Simon Reeves, Pennaeth Llais. “Byddant yn treulio sawl wythnos yn gweithio gydag awduron, dyfeiswyr, cyfarwyddwyr ac ymarferwyr sefydledig eraill ar sut i greu eu gwaith eu hunain. Yna, gyda mentora gan eu tiwtoriaid, maent yn ysgrifennu, rihyrsio, cynhyrchu ac yn y pen draw yn perfformio darn 30 munud o theatr gyda chyllideb fechan a chefnogaeth dechnegol broffesiynol.

Mae’r darnau hyn a phrosiectau tebyg a wneir gan fyfyrwyr gradd, yn eu helpu i ddatblygu sgiliau sy’n eu gwneud yn berfformwyr creadigol deallus ac amryddawn sy’n gallu creu a darganfod eu gwaith eu hunain.”

Yn y prif lun gwelir Ben mewn cynhyrchiad diweddar CBCDC o Electra.