Yn ôl i brif wefan CBCDC

Rownd Derfynol Linbury: Llwyddiant CBCDC

5 Awst 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Unwaith eto mae Graddedigion CBCDC yn amlwg ymhlith cystadleuwyr rownd derfynol gwobr cynllunio llwyfan uchaf ei bri y DU – gyda chwech o’r deuddeg cynllunydd a ddewiswyd yn dod o’r Coleg.

Mae’r gystadleuaeth unigryw hon sy’n para am saith mis yn rhoi cyfle digyffelyb i gynllunwyr llwyfan sydd newydd raddio i weithio gyda chwmnïau theatr proffesiynol a chydweithredu gydag awduron, cynllunwyr a thimau technegol ar y cam hollbwysig hwn yn eu gyrfaoedd.

Llongyfarchiadau i Camilla Clarke a Cindy Lin (a welir yn y prif lun) a fydd yn gweithio gyda Theatr y Royal Court, Valeria Pacchiani a Rebecca Jane Wood, yn gweithio gyda Theatr Nuffield, David Allen, yn gweithio gyda Theatr y Lyric, Belfast, a Jen McGinley, yn gweithio gyda Theatr Traverse.

Y cwmnïau theatr sy’n dewis y myfyrwyr ar gyfer y rownd derfynol ac mae pob enillydd yn cael comisiwn proffesiynol i wireddu cynhyrchiad gan y cwmni y cânt eu derbyn i weithio iddo, ynghyd â gwobr ariannol.

“Mae’r arddangosfa graddedigion yn rhoi boddhad mawr; mae’n benllanw tair blynedd o waith ac mae cael y cyfle i’w chyflwyno i’r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol y diwydiant, yng Nghaerdydd ac yn Llundain, yn gyfle rhyfeddol ar ddechrau eich gyrfa broffesiynol,” meddai cyn-gystadleuydd rownd derfynol gwobr Linbury Jen McGinley am y cwrs cynllunio theatr. “Mae’r Coleg yn rhoi’r gefnogaeth a’r hyfforddiant gorau posibl i chi fel cynllunydd perfformiad ac mae gweddill y diwydiant yn gwybod hynny hefyd.”

Gellir gweld gwaith holl fyfyrwyr y rownd derfynol mewn arddangosfa yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a chaiff enwau’r pedwar enillydd eu cyhoeddi bryd hynny.

Mae CBCDC wedi cael llwyddiant anferth yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd. Cyn enillwyr o’r Coleg yw Jean Chan (2009), Rhys Jarman (2007), Tom Scutt (2007), Adam Wiltshire (2003), Crista Noel Smith (2003) a Max Jones (2001), a chafodd llawer mwy eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol.

Aeth y cynllunwyr hyn ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus, gan gynllunio cynyrchiadau ar gyfer y Royal Shakespeare Company, The Royal Court, Royal Ballet, Royal Opera House, National Theatre, Opera Cenedlaethol Cymru a llawer mwy.