Yn ôl i brif wefan CBCDC

Er Cof am Geraint Stanley Jones

26 Awst 2015

Gyda thristwch mawr yr ydym yn nodi marwolaeth Is-lywydd y Coleg, Geraint Stanley Jones.

Roedd Geraint, a oedd yn gyn-Gyfarwyddwr BBC Cymru ac S4C, yn gefnogwr brwd o’r Coleg, gan weithredu fel ei Gadeirydd rhwng 1989 a 2000. Parhaodd Geraint i wneud cyfraniad gwerthfawr iawn yn rôl yr Is-lywydd hyd nes ei farwolaeth, gan fynychu Cinio’r Llywydd ym mis Mai eleni.

Meddai Hilary Boulding, Prifathro CBCDC:

“Gwnaeth ‘Geraint Stan’, fel y câi ei adnabod yn gyffredinol, gyfraniad nodedig i nifer dirifedi o sefydliadau diwylliannol – yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Fel aelod o’r Bwrdd, yna’n Gadeirydd ac wedyn fel Is-lywydd poblogaidd iawn Coleg Brenhinol Cymru, roedd ei gefnogaeth i fyfyrwyr, staff a sefydliad Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn ddiflino. Roedd ganddo ddiddordeb mewn pobl ifanc ac roedd yn hoff dros ben o’r Coleg a byddai ei anogaeth i’n gwaith bob amser yn ysbrydoliaeth. Bydd ei etifeddiaeth ar ffurf Canolfan Anthony Hopkins yn parhau i roi budd i genedlaethau o artistiaid ifanc.”

Fe wnaeth cyn-fyfyriwr a Chymrawd y Coleg, Iris Williams, hefyd fynegi ei chydymdeimlad ar gyfryngau cymdeithasol: