Llongyfarchiadau gwresog i Sophie Melville (a raddiodd mewn actio yn 2013), a enillodd Wobr Stage am Ragoriaeth Actio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.
So proud of @SophieMelville – just been presented with @TheStage Award for Acting Excellence #iphigeniainsplott pic.twitter.com/13IwKYwFss
— Sherman Theatre / Theatr y Sherman (@ShermanTheatre) August 29, 2015
Mae Sophie’n serennu yn y sioe un fenyw Iphigenia in Splott, a gynhyrchir gan Sherman Cymru. Wedi adolygiadau gwych yng Nghaerdydd, dewiswyd y sioe fel rhan o Lwyfaniad Caeredin y British Council yn The Pleasance.
“Mae’n rhyfedd, ar ôl gweld dros 100 o sioeau mewn pythefnos a hanner yng Nghaeredin, mai’r perfformiad olaf oedd y gorau…Erbyn diwedd 70 munud gafaelgar, mae’n anodd peidio â chrio…wrth weld merch ddrwg yn aeddfedu mewn monolog sydd wedi’i strwythuro’n wych gyda Sophie Melville yn rhoi ei chalon a’i henaid i’r perfformiad.”
★★★★★ British Theatre Guide
Nid Sophie yw’r unig un o raddedigion CBCDC sy’n gysylltiedig â’r sioe. Cafodd ei chynllunio gan Hayley Grindle a raddiodd mewn cynllunio theatr.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook