Yn ôl i brif wefan CBCDC

Beth Wnaethoch Chi’r Haf Hwn?

17 Medi 2015

Rydym wedi casglu ychydig o uchafbwyntiau o’r hyn sydd wedi bod yn haf rhyfeddol i CBCDC…

Roeddem ym mhobman yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni: Cynhaliodd Venue 13 – wedi ei reoli gan fyfyrwyr Rheoli Llwyfan a Rheolaeth yn y Celfyddydau CBCDC – 150 o berfformiadau dros yr ŵyl dair wythnos, yn cynnwys sioeau o UDA, Canada a Chymru.

 

Derbyniodd yr actor ôl-radd Ben Norris Wobr Ideas Tap Underbelly am ei sioe un dyn gyntaf, The Hitchhiker’s Guide to the Family, sydd erbyn hyn ar daith o amgylch y DU.

 

Enillodd Sophie Melville, a raddiodd yn 2013, Wobr The Stage am Ragoriaeth Actio am ei pherfformiad ysgubol yng nghynhyrchiad Sherman Cymru o ddrama newydd un fenyw Gary Owen Iphigenia in Splott, a fydd yn symud i’r National Theatre y flwyddyn nesaf.

Nid Sophie yw’r unig un o raddedigion CBCDC sy’n gysylltiedig â’r sioe – cafodd ei chynllunio gan Hayley Grindle a raddiodd mewn cynllunio theatr.

“Mae Sophie Melville yn wych yn y fersiwn a ail weithiwyd hon o’r chwedl am ddynes ifanc wedi dadrithio sy’n cicio yn chwyrn yn erbyn byd digalon.”
The Guardian

 

Cafodd cynhyrchiad o Boys Ella Hickson gan gwmni o actorion israddedig CBCDC hefyd ganmoliaeth gan feirniaid yr Ŵyl Ymylol.

“Gwna Open Letter waith gwych o sgript Hickson…mae’r cast i gyd yn fywiog a hyderus ac mae’r set yn gampus…mae Boys yn gynhyrchiad cyntaf canmoladwy.”
broadwaybaby.com

 


 

 

Cyhoeddwyd deuddeg enw ar gyfer rownd derfynol Gwobr Linbury ar gyfer Cynllunio Llwyfan 2015 – ac mae chwech ohonynt yn raddedigion diweddar CBCDC. Fel rhan o’r wobr mae Camilla Clarke a Cindy Lin (llun) yn gweithio ar gomisiwn proffesiynol gyda’r Royal Court Theatre; Valeria Pacchiani a Rebecca Jane Wood gyda’r Nuffield Theatre, David Allen gyda’r Lyric Theatre, Belfast, a Jen McGinley gyda Traverse Theatre. Caiff y prif enillwyr eu cyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Tom Scutt, cyn-fyfyriwr Cynllunio, ac enillydd Gwobr Linbury yn 2007, a gynlluniodd y set ar gyfer Gwobrau Cerddoriaeth Fideo MTV 2015 a gynhaliwyd yn Los Angeles ar ddiwedd mis Awst.

 


 

 

Roedd yn dymor BBC Proms rhyfeddol i CBCDC lle gwelwyd 40 o’n myfyriwr cerdd yn canu gyda Chôr Ieuenctid Proms y BBC mewn tri pherfformiad o Freuddwyd Gerontiws Elgar gyda Syr Simon Rattle a Cherddorfa Ffilharmonig Fienna yn Neuadd Frenhinol Albert. Gwnaethant berfformio cyngherddau hefyd yn Neuadd Symffoni, Birmingham a Gŵyl Lucerne.

“…Côr Ieuenctid Proms y BBC a serennodd yn y perfformiad hwn o oratorio Elgar…eu cywirdeb a’u sain yn berffaith ac yn meddu ar ystod deinameg anghymharol…hollol ryfeddol.”
The Guardian

 

Cafodd cyngerdd byw yn y Coleg Cerdd Brenhinol a berfformiwyd gan gerddorion ôl-radd CBCDC ei recordio ar gyfer ei ddarlledu ar Radio 3 y BBC fel rhan o’i gyfres Portreadau Cyfansoddwyr y Proms. Perfformiodd saith cerddor o CBCDC weithiau siambr gan B Tommy Andersson ar ôl rihyrsio gyda’r cyfansoddwr. Dilynodd y rhaglen ddarllediad byw o un o gyngherddau’r Proms gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a oedd yn cynnwys perfformiad cyntaf gwaith newydd gan y cyfansoddwr.

 

Ar noson olaf y Proms, perfformiodd Luke McCall, a raddiodd mewn Theatr Gerdd yn 2014, yng nghyngerdd Proms yn y Parc y BBC ym Mharc Singleton, Abertawe i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

 

Bu cymaint yn digwydd, prin yr oeddem wedi gallu dal popeth! Llongyfarchiadau anferthol i bawb. A gyda chymaint i edrych ymlaen ato y tymor hwn @ColegCerddDrama, bydd gennym ragor o newyddion yn fuan.