Yn ôl i brif wefan CBCDC

Dim i’w Methu: Tymor yr Hydref yn CBCDC

25 Medi 2015

Er mwyn croesawu ein myfyrwyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd i’r Coleg, rydym wedi llunio rhestr o berfformiadau na ddylid eu methu, sy’n dangos safon ac amrywiaeth y rhaglen artistig a geir yma ar garreg eu drws.

Diolch i gefnogaeth hael y darparwr llety Liberty Living, mae myfyrwyr CBCDC yn gymwys i gael tocynnau am ddim ar gyfer nifer o berfformiadau – ac mae eraill (a nodir â *) yn £3 yn unig. Holwch yn y Swyddfa Docynnau neu ewch i’r Hyb i gael y manylion llawn a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich tocynnau’n gynnar fel na chewch eich siomi.

Hyd yn oed os nad ydych yn ddigon ffodus i fod yn fyfyriwr yn CBCDC, ond eich bod yn denant Liberty Living yng Nghaerdydd, gallwch chwithau hefyd gael tocynnau am £3 ar gyfer rhai perfformiadau, gan arbed hyd at £15.

Gall y cyhoedd brynu tocynnau, yn cynnwys consesiynau, ar gyfer pob perfformiad ar-lein nawr.

1Datganiad Enillydd Gwobr
Mercher 30 Medi, 1.15pm, Neuadd Dora Stoutzker

Michael yn Neuadd Dora Stoutzker, gyda Ian Stoutkzer ar ôl ennill y wobr glodfawr

Yn ôl ym mis Gorffennaf, cwblhaodd y bariton Michael Lowe drydedd flwyddyn ei astudiaethau gradd yn CBCDC, ac enillodd hefyd Wobr Ian Stoutzker glodfawr. Yn y datganiad hwn bydd yn perfformio rhaglen o ganeuon ac ariâu gyda Conal Bembridge-Sayers, sydd hefyd yn fyfyriwr yn CBCDC, yn cyfeilio.

Pam na ddylech ei fethu: Cewch eich llorio gan dalentau rhyfeddol y canwr ifanc hwn, wrth iddo berfformio ei raglen ei hun o ganeuon cyfoes yn Saesneg, rhai o’i gyfansoddiadau ei hun, yn ogystal â’r darnau mwy traddodiadol y gwnaeth eu canu i ennill y wobr nodedig hon.

 

2Llŷr Williams, Cyfres Piano Beethoven *
Iau 8 Hydref, 7.30pm, Neuadd Dora Stoutzker

Bydd y pianydd rhyngwladol enwog Llŷr Williams yn dychwelyd i CBCDC am ail flwyddyn Cylch Sonata Beethoven sy’n ymestyn dros dair blynedd.

“mae dehongliad sydd eisoes yn rhyfeddol yn parhau i esblygu a dyfnhau.”
The Guardian

 

Pam na ddylech ei fethu: Mae’r gyfres eisoes wedi derbyn clod y beirniaid a chaiff ei pherfformio’n arbennig yn CBCDC a Neuadd Wigmore.

 

3Stondin Theatr Gerdd
Llun 12 Hydref, 7.30pm; Mawrth 13 Hydref, 1pm, Theatr Richard Burton

Eich cyfle i weld y dalent theatr gerdd ddiweddaraf sy’n dod i’r amlwg yn y Coleg. Cyflwynir dau berfformiad o’r Stondin Theatr Gerdd yn CBCDC cyn y bydd yn symud i Lundain. Yn ddiweddarach yn y tymor cewch gyfle arall i’w gweld yn perfformio fel Cwmni Richard Burton mewn cynhyrchiad mawr o Into the Woods Stephen Sondheim.

Pam na ddylech ei fethu: Yn y Stondin caiff y myfyrwyr gyfle i ddangos beth y gallant ei wneud: dau funud yr un i ganu a pherfformio gerbron asiantau, cyfarwyddwr castio – a chi – ar ddechrau eu gyrfaoedd proffesiynol.

 

4Catrin Finch: Tides *
Gwener 16 Hydref, 7.30pm, Neuadd Dora Stoutzker

Y delynores ryngwladol ac Artist Preswyl, Catrin Finch, yn dychwelyd i CBCDC ar gyfer noson olaf ei Thaith Hydref Tides o amgylch y DU – rhan o gyfres Gwrthdrawiadau y Coleg, sy’n dod â’r gerddoriaeth gyfoes orau i Gaerdydd.

Pam na ddylech ei fethu: Am y tro cyntaf bydd Catrin yn perfformio ei cherddoriaeth ei hun o’i halbwm newydd, Tides, y cyfansoddwyd llawer ohoni yn ystod ei hastudiaethau ôl-radd diweddar yn CBCDC.

 

5Rachmaninov wrth y Piano
Mercher 21 Hydref, 1.15pm, Neuadd Dora Stoutzker

Fel rhan o ŵyl Rachmaninov Caerdydd, a gynhelir dros gyfnod o dri mis, bydd pianyddion Coleg Brenhinol Cymru Anthony Cheng, Francis Goodwin, Sioned Evans, Jack Bird, George Fradley a Joseph Tong yn perfformio Rachmaninov wrth y Piano. Er mwyn parhau gyda dathliadau’r cyfansoddwr poblogaidd hwn o Rwsia, bydd y trombonydd Ian Bousfield yn perfformio datganiad awr ginio cyn ei ddosbarth meistr gyda myfyrwyr pres CBCDC ar Ddydd Gwener 20 Tachwedd. Gweler facebook.com/cdfrach neu #CardiffRach15 am fanylion llawn Rachmaninov Caerdydd.

Pam na ddylech ei fethu: Cyfle i ymgolli’n llwyr yng ngherddoriaeth Ramantaidd, brydferth a swynol y cyfansoddwr poblogaidd iawn hwn o Rwsia.

 

6Pedwarawd Emerson
Mercher 18 Tachwedd, 7.30pm, Neuadd Dora Stoutzker

Pedwarawd Emerson yn perfformio i fyfyrwyr yn Neuadd Dora Stoutzker y llynedd ar ei ymwelid cyntaf â Chymru

Bydd un o ensembles siambr gorau’r byd, Pedwarawd Emerson (yn cynnwys y Cymro Paul Watkins, sef Athro Cadair Rhyngwladol Sefydliad Jane Hodge ar gyfer y Soddgrwth yn CBCDC), yn dychwelyd i’r Coleg i weithio gyda myfyrwyr ac i berfformio yn Neuadd Dora Stoutzker. Mae hwn yn debygol o fod yn berfformiad lle bydd pob tocyn wedi’i werthu felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi un o’r ychydig docynnau sy’n weddill cyn ei bod yn rhy hwyr.

Pam na ddylech ei fethu: Mae hwn yn berfformiad prin yn y DU gan y pedwarawd sydd wedi ennill sawl gwobr Grammy, yn perfformio tri gwaith penigamp o galon eu repertoire.

 

7AmserJazzTime: Triawd Gilad Hekselman (* £3, neu am ddim i fyfyrwyr Jazz)
Gwener 20 Tachwedd, 7.30pm, Neuadd Dora Stoutzker
(Ensemble Jazz Luna, 5.30pm, Cyntedd)

AmserJazzTime yw sesiwn jazz wythnosol hynod boblogaidd y Coleg sy’n cyflwyno rhai o’r cerddorion jazz ifanc mwyaf cyffrous yn y maes, ochr yn ochr ag artistiaid gwadd arbennig. Mae’r dyddiad hwn yn nodi dechrau Taith Cymru a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, lle bydd ensemble jazz Luna CBCDC yn cefnogi’r gitarydd jazz Gilad Hekselman a’i Driawd. Mae’r daith, sydd â’r nod o fynd â jazz at gynulleidfaoedd newydd ledled Cymru, hefyd yn cynnwys dyddiadau yng Nghastell-nedd, Y Drenewydd a Chaergybi.

Pam na ddylech ei fethu: Mae’r Coleg yn gyflym ddod y lleoliad mwyaf poblogaidd ar gyfer jazz byw yng Nghaerdydd. Dewch i brofi’r cyffro.

 

8Beethoven 9 *
Sul 22 Tachwedd, 3pm, Neuadd Dewi Sant

Yr Athro Cadair Rhyngwladol mewn Arwain, Carlo Rizzi, mewn rihyrsal gyda myfyrwyr yn Neuadd Hoddinott ar gyfer Offeren Rhyfel a berfformiwyd yn Neuadd Dewi Sant llynedd

Bydd y Maestro Carlo Rizzi yn dychwelyd i arwain ensemble, sy’n cynnwys bron i bob un o fyfyrwyr cerddoriaeth y Coleg mewn perfformiad tirnod o Symffoni Rhif 9 – Awdl i Lawenydd – Beethoven yn Neuadd Dewi Sant. Yn dilyn llwyddiant enfawr Offeren Rhyfel llynedd, bydd y prosiect uchelgeisiol iawn hwn yn dwyn ynghyd y Coleg cyfan ac yn cynnwys hefyd westeion arbennig.

Pam na ddylech ei fethu: Ystyrir y Nawfed Symffoni i fod yn goron ar yrfa Beethoven ac o bosibl un o’r gweithiau mwyaf yng ngherddoriaeth y Gorllewin.

 

9The Taming of the Shrew
Mercher 2 – Sadwrn 12 Rhagfyr, 7.30pm,; 4 a 8 Rhagfyr, 2.30pm, Theatr Richard Burton

Ar gyfer y cynhyrchiad hwn gan Gwmni Richard Burton y Coleg mae cyfarwyddwr yr RSC, Iqbal Khan, wedi lleoli drama fyrlymus Shakespeare yn y chwedegau bywiog, gan gymryd ysbrydoliaeth o’r cyfnod pan oedd yr actor mawr o Gymru, Richard Burton, yn ei anterth. Os bydd hynny’n codi awydd ynoch am fwy o Shakespeare, bydd y cwmni hefyd yn perfformio Macbeth yn y Chapter yn ystod yr un wythnos.

Pam na ddylech ei fethu: Byddwch yn barod am y frwydr wrth i Petruchio geisio rheoli ei wraig gecrus mewn cyfnod pan oedd ffeministiaeth radicalaidd ar gynnydd.

 

10Nadolig yn y Coleg

Ymunwch yn ysbryd diwedd y tymor a pharatowch ar gyfer y Nadolig gyda rhaglen Nadoligaidd sy’n llawn i’r ymylon. Mae’n cynnwys cyngherddau gan Gerddorfa Siambr Coleg Brenhinol Cymru a Band Pres Coleg Brenhinol Cymru yn ogystal â Britten: A Ceremony of Carols, a Carolau Arbennig Amser Jazz, Caneuon Nadoligaidd a’n Gala Opera Gaeaf – noson o ddarnau operatig gyda’n cantorion talentog.

Pam na ddylech ei fethu: Yn unol ag ysbryd yr Ŵyl dangoswch eich cefnogaeth i artistiaid ifanc y Coleg wrth iddynt gyflwyno gwledd o adloniant Nadoligaidd i chi…