Bydd Coleg Brenhinol Cymru yn cynnal pedwaredd gŵyl ar ddeg Cyngres Telynau’r Byd yn 2020. Arweiniwyd y cais llwyddiannus gan Catrin Finch, Cymrawd ac Artist Preswyl CBCDC, a Phennaeth Adran y Delyn, Caryl Thomas (y ddwy yn y llun gyda’r telynorion Alice Giles a Hannah Stone).
Bu myfyrwyr Adran y Delyn CBCDC yn chwarae yn y digwyddiad lansio yn Oriel Weston y Coleg. Roedd y gwesteion yn cynnwys Edwina Hart AC, gwneuthurwyr telynau, telynorion a graddedigion CBCDC yn cynnwys Gwenllian Llyr a’r cyn delynores frenhinol Hannah Stone.
Daw aelodau Cyngres Telynau’r Byd o dros 50 o wledydd a chynhelir yr ŵyl bob tair blynedd, gyda’r nod o hyrwyddo cerddoriaeth y delyn yn rhyngwladol drwy gyfrwng cyngherddau, gweithdai a seminarau yn cwmpasu pob agwedd ar gerddoriaeth a pherfformiad y delyn.
Hwn fydd y tro cyntaf i’r Gyngres Telynau’r Byd ymweld ag Ewrop mewn deuddeg mlynedd. Cynhaliwyd y gyngres ddiwethaf yn Awstralia yn 2014 gydag un o westeion CBCDC Alice Giles yn Gyfarwyddwr Cerdd, a chynhelir y nesaf yn Hong Kong yn 2017.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook