Yn ôl i brif wefan CBCDC

Canmoliaeth gan y Beirniaid i’r Newydd-ddyfodiad Emily Barber

29 Hydref 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Tra bod actorion diweddaraf Cwmni Richard Burton yn parhau i arddangos eu talentau mewn cynhyrchiadau yn CBCDC yr wythnos hon, rydym yn dilyn hynt rhai o gyn aelodau’r cast…

Ar ôl graddio yr haf diwethaf, ymunodd Emily Barber â chast Billy Liar yn y Royal Exchange Manceinion (prif lun) – arweiniodd ei pherfformiad yn rôl Liz at Wobr y Newydd-ddyfodiad Gorau yng Ngwobrau Theatr Manceinion ym mis Mawrth.

Yr haf hwn mae hi wedi bod yn ymddangos yn rôl Gwendolen Fairfax yng nghynhyrchiad cymeradwyedig The Importance of Being Earnest yn Theatr Vaudeville Llundain, ochr yn ochr â David Suchet, sy’n chwarae ei mam, yr Arglwyddes Bracknell.

“Seren newydd y noson yw Emily Barber… sydd fel petai wedi camu allan o’r oes a fu – yr acen, agwedd, amseru a’r brawddegu yn berffaith.”
The Telegraph

Y newyddion cyffrous yw – pan ddaw’r sioe i ben yr wythnos nesaf bydd Emily yn ymuno â chast Cymbeline yn Theatr y Globe Shakespeare.

Gwnaeth Emily ei pherfformiad proffesiynol cyntaf yn Cornelius ar gyfer Theatr Finborough ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf yn CBCDC – rôl y gwnaeth ei hailadrodd y flwyddyn ganlynol pan drosglwyddodd y ddrama i Efrog Newydd fel rhan o Ŵyl Brits of Broadway ar gyfer Theatr 59E59.

“Mae gyrfa ddisglair ar y gorwel i’r newydd-ddyfodiad Emily Barber sydd, yn rôl y teipydd newydd Judy, yn dangos melyster gydag ychydig o agwedd a gwên llawn dirgelwch.”
The Independent on Sunday

Yn ystod ei blwyddyn olaf yn CBCDC, cafodd Emily gefnogaeth ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Richard Carne, sydd â’r nod o gynorthwyo pobl ifanc talentog yn y celfyddydau perfformio. Mae myfyrwyr sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth yn y gorffennol yn cynnwys Tom Rhys Harries, sydd ar hyn o bryd i’w weld yn yr addasiad o Jekyll and Hyde ar ITV ar nosweithiau Sul.

Mae sefydlydd yr Ymddiriedolaeth, Philip Carne, wedi dilyn camau cyntaf Emily fel actor proffesiynol gyda chryn ddiddordeb ac wedi bod wrth ei fodd gyda’i llwyddiant, gan ddweud am ei rôl fel Gwendolen Fairfax yn The Importance of Being Earnest – “Mae’n berfformiad â naws hyfryd iddo, yn dalsyth, pendefigaidd, hyfryd ei natur ond yn benderfynol o gael ei ffordd ei hun a’i dyn. Mae’n awgrymu’n glyfar ei bod yn gopi o’i mam sy’n ddraig o ddynes, hi fydd Arglwyddes Bracknell y dyfodol, ac y bydd Algernon druan yn does yn ei dwylo.”

Gwyliwch y perfformiad a recordiwyd o Emily yn chwarae rhan Viola yng nghynhyrchiad Cwmni Richard Burton o Twelfth Night ym mis Rhagfyr 2013.