Wrth i Gwmni Richard Burton gamu i’r llwyfan yn CBCDC, rydym yn edrych yn ôl ar yr hyn y bu rhai o aelodau llynedd yn ei wneud ers graddio.
Mae Annes Elwy, a ymunodd â Stiwdio Actorion Ifanc y Coleg cyn cael lle ar y rhaglen BA Actio, ar hyn o bryd yn ymddangos yn The Crucible yn y Bristol Old Vic. Mae’r adfywiad hwn o ddrama Arthur Miller – a ddisgrifir gan The Telegraph fel ‘rhagorol’ – yn dychwelyd i’r llwyfan lle’i perfformiwyd gyntaf ym Mhrydain ym 1954 er mwyn nodi 100 mlynedd geni Miller.
Ar ddechrau’r flwyddyn roedd Annes i’w gweld yn YEN gan Anna Jordan yn Theatr y Royal Exchange Manceinion. Disgrifiodd The Guardian ei pherfformiad yn y ddrama ddigyfaddawd hon fel ‘cwbl wefreiddiol’. Yn 2016, bydd YEN yn symud i Theatr y Royal Court mewn cyd-gynhyrchiad â’r Royal Exchange.
Annes Elwy fel Jenny a Alex Austin fel Hench yn Yen gan Anna Jordan (Y Stiwdio, Theatr y Royal Exchange). Llun – Jonathan Keenan
Tra ar y llwyfan yn YEN, roedd Annes i’w gweld yn y gyfres ddrama Lan a Lawr ar S4C – y gwnaeth ei ffilmio yn fuan wedi graddio. Ymddangosodd Annes hefyd yng nghyfres Gwaith Cartref ar S4C tra’r oedd yn dal yn CBCDC.
Gall Annes ychwanegu ffilm at ei gwaith llwyfan a theledu gyda’i rôl yn Yr Ymadawiad, y ffilm genre Gymraeg gyntaf erioed a gafodd premiere yn UDA yn ddiweddar yn y Fantastic Fest yn Austin, Texas. Mae’r ffilm, gan y tîm creadigol a oedd yn gyfrifol am y gyfres ddrama nodedig y BBC Y Gwyll, hefyd yn cynnwys cyd-raddedigion CBCDC Dyfan Dwyfor a Mark Lewis Jones.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook