Yn ôl i brif wefan CBCDC

Perfformiad Cyntaf yr Actor Ifanc Emily yn y West End

3 Tachwedd 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Stiwdio Actorion Ifanc

Llongyfarchiadau i fyfyriwr Stiwdio Actorion Ifanc y Coleg Emily Burnett sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei pherfformiadau proffesiynol cyntaf yn Theatr Soho, Llundain.

Emily Burnett gyda James Tarpey. Llun: Jane Hobson

Drama newydd feiddgar, ddoniol ac anarchaidd yw First Love is the Revolution lle mae Emily yn chwarae rhan llwynog sy’n datblygu perthynas gyda bachgen yn ei arddegau. Mae’r ddrama wedi cael adolygiadau rhagorol gan gynulleidfaoedd, sydd wedi’i galw’n ‘wallgof o wych’ ac un sy’n ‘cynhesu a thorri’r galon’, a hefyd gan y beirniaid.

“Rhaid rhoi marciau llawn fodd bynnag i Emily Burnett fel Rdeca a James Tarpey fel Basti, yn eu perfformiadau cyntaf ar y llwyfan proffesiynol, am gyflwyno dau gymeriad cwbl gydymdeimladol.”
The Stage

Mae’r ddrama, a gyfarwyddir gan Steve Marmion, a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cymru, yn rhan o dymor Love Against the Odds Theatr Soho.

Llun: Jane Hobson

 

“Mae’n debyg ei bod hi tua wythnos i mewn i’r cyfnod ryhyrsio pan ddechreuais sylweddoli pa mor amhrisiadwy fu fy nghyfnod yn y Stiwdio Actorion Ifanc,” meddai Emily. “Fy narllen ar yr olwg gyntaf yn ystod ‘read throughs’, pobl yn dadansoddi, ac yn sydyn roedd gwersi testun Matthew Bailey yn atgyfodi yn fy mhen. Y pethau syml oeddent mewn gwirionedd, gwybod bod angen cynhesu bob bore fel bod fy llais yn gallu ymdopi â’r hyn yr oeddwn am iddo ei wneud.

Ar lefel fwy personol yr hyn sydd fwyaf gwerthfawr yw’r hunanhyder a roddodd y Stiwdio Actorion Ifanc i mi. Fe wnaeth fy helpu i wybod pa fath o berson oeddwn i, a rhoddodd y penderfyniad i mi ddweud ‘Galli Emily, fe alli di ymdopi â hyn’ – weithiau mewn sefyllfaoedd eithaf brawychus. Pan fyddwch yn byw oddi cartref ac yn gwneud pethau nad yw eich llais, eich corff a’ch ymennydd wedi gorfod eu gwneud o’r blaen, mae’r hunanhyder hwnnw’n hynod werthfawr.

Felly, am hynny hoffwn ddiolch o waelod calon i’m holl diwtoriaid a’r bobl y bûm yn gweithio gyda hwy yn y Stiwdio Actorion Ifanc a wnaeth gredu ynof a’m cefnogi’n gyson.”

Graddiodd Emily hefyd o raglen hyfforddiant ffilm ieuenctid It’s My Shout yn Ne Cymru, gan ymddangos yn Sweet Sixteen yn 2011 a Shout yn 2013.

Bydd yn dychwelyd i’r Stiwdio Actorion Ifanc ym mis Ionawr ac edrychwn ymlaen at glywed am ei phrofiadau actio newydd.

Mae Stiwdio Actorion ifanc Coleg Brenhinol Cymru ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant wythnosol ar y lefel uchaf yng Nghaerdydd a Sir Benfro ar gyfer dros 150 o bobl ifanc 12-20 oed.

 

Holl luniau gan Jane Hobson