Yn ôl i brif wefan CBCDC

Hannah, Menyw y Dyfodol, yn Sôn am Reolaeth yn y Celfyddydau

25 Tachwedd 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Rheolaeth yn y Celfyddydau

Llongyfarchiadau i Hannah Kendall, y cyfansoddwr a raddiodd o’r cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau, sydd wedi derbyn Gwobr Menyw y Dyfodol 2015 ar gyfer y Celfyddydau a Diwylliant. Mae’r gwobrau hyn, sy’n dathlu eu degfed flwyddyn eleni, yn cefnogi ac yn tynnu sylw at dalent menywod yn y DU.

Bu Hannah yn sgwrsio gyda ni am yr hyn y mae wedi bod yn ei wneud ers graddio, a sut mae ei hyfforddiant ym maes Rheolaeth yn y Celfyddydau yn ei helpu i gyflawni’r ‘Yrfa Portffolio’ hollbwysig honno:

Beth wnaeth eich denu at y cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yn CBCDC?

Roeddwn yn gwybod y byddai’r cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yn rhoi sylfaen amhrisiadwy i yrfa yn y Celfyddydau. Roeddwn yn hoffi’r ffaith ei fod yn cynnig hyfforddiant cywasgol ym mhob maes, yn amrywio o gyllid a chodi arian i gynllunio digwyddiadau, marchnata, ac addysg a gwaith allgymorth.

Pe bawn yn onest, i ddechrau roeddwn i’n teimlo ei fod yn gam synhwyrol iawn i’w gymryd cyn cychwyn ar fy nghwrs Meistr mewn Cyfansoddi Uwch, rhag ofn na fyddai’r cyfansoddi’n digwydd! Fodd bynnag, wrth i’m gyrfa fynd rhagddi teimlaf fwyfwy ei fod yn fwy na dim ond cam synhwyrol iawn, ond yn rhan annatod i’w datblygiad cyffredinol, fel cyfansoddwr a rheolwr yn y celfyddydau.

Sut mae eich cymhwyster rheolaeth yn y celfyddydau wedi dylanwadu ar benderfyniadau yn eich gyrfa fel cyfansoddwr?

Teimlaf ei bod yn hollbwysig i bob cerddor fod yn entrpreneuraidd. Nid oes sicrwydd y bydd rheolwr artist yn edrych ar eich ôl, neu y caiff eich cerddoriaeth ei chyhoeddi gan wasg o bwys.

Fodd bynnag, dydw i ddim wedi fy argyhoeddi mai dyma ddylai fod yn brif nodau ar gyfer crewyr cerddoriaeth yr unfed ganrif ar hugain. Golyga hyn bod sgiliau hunan-hyrwyddo a hunan-reoli yr un mor bwysig â’ch sgiliau artistig. Deuthum i ddeall y cysyniad hwn drwy’r cymhwyster rheolaeth yn y celfyddydau.

Mae’r hyfforddiant cyfryngau yn y Coleg, o ran print a darlledu yn benodol, wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer pan fu’n rhaid i mi ysgrifennu erthyglau a gwneud cyfweliadau radio, fel yr adeg pan gefais sylw ar raglen ‘Composer of the Week’ BBC Radio 3 ym mis Mawrth.

Gall hynny fod yn brofiad anodd iawn, ond byddaf yn dal i ddefnyddio’r sgiliau cyflwyno a ddysgwyd i ni gyd flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi’r hyder i mi gyfathrebu’n effeithiol.

Sut brofiad yw hi i gyfuno gyrfa fel cyfansoddwr gyda’ch gwaith fel rheolwr yn y celfyddydau? Sut ydych chi’n llwyddo i gael cydbwysedd?

Mae’n brysur, ond hefyd yn gyffrous, ac mae pob diwrnod yn wahanol. Rhaid i chi fod yn ddisgybledig iawn, ond yn hyblyg hefyd. Byddaf yn treulio tri diwrnod yr wythnos yn gweithio fel un o gyfarwyddwyr yr elusen London Music Masters, sydd â’r nod o alluogi cyfle, amrywiaeth a rhagoriaeth mewn cerddoriaeth glasurol.

Byddaf yn treulio gweddill yr amser yn cyfansoddi neu’n addysgu yn y Junior Royal Academy of Music. Mae pob maes yn bwydo’i gilydd felly ni fyddaf yn meddwl amdanynt fel endidau ar wahân. Er enghraifft, rhan o’m gwaith yn LMM yw comisiynu cyfansoddwyr i ysgrifennu gweithiau newydd ar gyfer y myfyrwyr sydd ar ein menter addysg cerddoriaeth ac artistiaid proffesiynol. Fel cerddor, rwy’n amlwg yn gwybod llawer am y byd cerddoriaeth glasurol cyfoes, ac felly mae fy ngwybodaeth yn y maes hwn yn helpu’n fawr gyda’r broses comisiynu yn y gwaith.

Y peth anoddaf yw sut y mae pobl eraill yn eich gweld chi, naill ai fel ‘cyfansoddwr’ neu ‘reolwr yn y celfyddydau’, yn hytrach na’r ddau. Hefyd, cyfeirir yn aml at fy ngwaith gyda’r LMM fel fy ngwaith ‘bob dydd’, er bod fy ngwaith arall yr un mor bwysig i mi. Pan es i CBCDC 10 mlynedd yn ôl byddai Aidan Plender, a oedd yn arwain y cwrs, bob amser yn sôn am y syniad o Yrfa Portffolio, ac mae’n rhywbeth yr wyf wedi ei weithredu. Credaf fod hyn yn hanfodol, yn arbennig ar gyfer cerddorion. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn syniad newydd neu anarferol i rai.

Rydych wedi dweud bod ysgrifennu a chynhyrchu eich opera ddiweddaraf, ‘The Knife of Dawn’, yn enghraifft berffaith o sut i gyfuno eich profiad ym maes rheoaeth yn y celfyddydau a chyfansoddi. Allwch chi sôn mwy am hynny?

Rydw i wedi bod eisiau ysgrifennu opera siambr, gan greu rôl benodol ar gyfer canwr o dras Affricanaidd-Caribïaidd, ers amser. Yn ogystal ag ysgrifennu’r gerddoriaeth, rydw i hefyd wedi bod yn edrych ar ôl yr holl elfennau eraill sy’n rhan annatod o’r prosiect, gan gynnwys codi arian, sgil a ddysgais yn ystod fy hyfforddiant yn CBCDC ac un yr wyf wedi ei datblygu drwy gydol fy ngyrfa wedi hynny.

A oes gennych chi gyngor ar gyfer unrhyw gyfansoddwyr uchelgeisiol neu unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y celfyddydau yn fwy cyffredinol?

Mae unrhyw un sy’n gweithio neu’n ceisio gyrfa yn y celfyddydau yn frwd ynglŷn â’u maes, a chredaf ei bod yn bwysig bob amser i geisio dod o hyd i waith sy’n cynnal y brwdfrydedd hwn, oherwydd nid yw gweithio yn y maes hwn bob amser yn hawdd. Ni fydd y prosiectau hyn yn dod i chwilio amdanoch chi. Mae’n debygol iawn y bydd yn rhaid i chi fynd i chwilio amdanynt hwy neu greu cyfleoedd i chi eich hun. Peidiwch â’u hosgoi!

Rwy’n annog pawb i edrych ar eu proffesiwn fel hyn, oherwydd fel arfer bydd y canlyniadau’n gyffrous, yn ddeinamig ac yn hynod werth chweil.

Cyflwynir premiere o waith Hannah, ‘Not Hands Like Mine’, sydd wedi’i godi o’i opera, ‘The Knife of Dawn’, yn Neuadd Dora Stoutzker y Coleg ar Ddydd Gwener Tachwedd 27.

 

Lluniau: Chris Alexander