Yn ôl i brif wefan CBCDC

Gwaith Cynllunio Theatr Trawiadol yn yr Orsaf Heddlu

1 Rhagfyr 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Mae gwaith celf myfyrwyr Cynllunio Theatr nawr yn cael ei arddangos yn yr Orsaf Heddlu ym Mae Caerdydd.

Gweithio ar y paentiadau hyn yw’r cyfle cyntaf i’r myfyrwyr sy’n astudio Cynllunio ar gyfer Perfformiad fynd i’r afael â throi paentiad o ddelwedd fach i un fawr iawn.

Y Technegydd Cynllunio, Rorie Brophy, Prif Arolygydd Nigel Griffiths, Jen Rowlands, Amanda Townsend a’r myfyriwr cynllunio Rory Kierans yn edmygu’r portreadau anferth

Wedi eu creu o ddim mewn pedwar diwrnod yng ngweithdy’r Coleg, mae’r myfyrwyr yn defnyddio dulliau traddodiadol artistiaid golygfeydd o gridio, a chymysgedd o emwlsiwn cartref ac acryligion golygfeydd er mwyn creu’r portreadau enfawr hyn.

Dywedodd Jen Rowlands, Darlithydd Cynllunio yn CBCDC: “Yr her nesaf i’r myfyrwyr yw dechrau’r broses o drosi’r marciau yn y gwreiddiol i’r raddfa llawer mwy tra’n cadw’n driw i arddull a lliwiau gwaith y paentiwr gwreiddiol.

Bydd y sgil hon wedyn yn trosi’n hawdd i ail-greu’r marciau – boed hwy’n haniaethol, realistig, arlunyddol, lliwgar, diwydiannol neu gymylog – y deuir o hyd iddynt ar y cynlluniau ar gyfer lloriau, cefnlenni a darnau adeiledig ym meysydd theatr, ffilm a theledu.”

Bydd y myfyrwyr nawr yn symud ymlaen i wneud yr holl waith paentio yn sioeau’r Coleg, y tu fewn a thu allan i’r Coleg, dros y flwyddyn academaidd nesaf.

Ail-greodd y myfyrwyr MA Cynllunio Rory Kierans baentiad o hunanbortread cynnar gan David Hockney

Dywedodd Rory Kierans, sy’n astudio ar gyfer MA mewn Cynllunio ar gyfer Perfformiad ac sy’n bwriadu gweithio ym myd teledu, “Mae’n wych cael y gofod hwn i arddangos ein gwaith. Hwn yw’r paentiad go iawn cyntaf i mi ei wneud felly rwy’n falch i’w weld yn cael ei arddangos yma.”

Fel arfer gwaredir y paentiadau ar ôl eu harddangos am gyfnod byr yn Oriel Linbury y Coleg. Fodd bynnag, yn dilyn awgrym gan Amanda Townsend, Gweinyddwr Gweithredol yn CBCDC, bydd chwech o’r portreadau anferth nawr yn cael eu harddangos yn barhaol yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.

Cyfarfu Amanda â’r Prif Arolygydd Nigel Griffiths mewn gwasanaeth coffa yn yr orsaf ar gyfer PC Andrew Lloyd James a gafodd ei ladd yn 2003 tra’n ymateb i ladrad yn y Coleg.

Mae’r delweddau a welir yn dangos y myfyriwr Rory Kierans o flaen ei bortread, yn siarad â’r Prif Arolygydd Nigel Griffiths.