Yn ôl i brif wefan CBCDC

Anne Denholm: O’r Conservatoire Iau i Delynores Frenhinol

8 Rhagfyr 2015

Ffeiliwyd o dan:

Telyn

Yn ddiweddar penodwyd Anne Denholm, a astudiodd yng Nghonservatoire Iau Coleg Brenhinol Cymru, yn delynores swyddogol i EUB Tywysog Cymru.

Anne yw’r pumed telynor i gael y rôl hon, ers ei hailsefydlu yn 2000 er mwyn meithrin ac annog talent gerddorol yng Nghymru ac i godi proffil y delyn fel offeryn.

Mae gan Goleg Brenhinol Cymru gysylltiad parhaus gyda’r teyrnasiad newydd o delynorion brenhinol: y cyntaf oedd Catrin Finch, Cymrodor, Artist Preswyl a myfyriwr cyfansoddi yn y Coleg, a’r mwyaf diweddar oedd myfyriwr ôl-radd CBCDC, Hannah Stone.

Anne Denholm, telynores swyddogol i EUB Tywysog Cymru. Llun: Timothy Ellis

Ers cael ei phenodi mae Anne wedi chwarae mewn nifer o ddigwyddiadau mawr eu bri, yn cynnwys yn Clarence House a Phalas Buckingham, ac yn fwyaf diweddar perfformiodd yn ystod ymweliad gwladol swyddogol Arlywydd China a’i wraig.

“Mae hi’n anrhydedd fawr i gael y swydd hon,” meddai Anne, “ac mae’n gyfle gwych a ddarperir gan Ei Uchelder Brenhinol i gael sylw pellach a momentwm fel artist.”

Ganwyd Anne yn Ne Orllewin Cymru a dechreuodd ganu’r delyn pan oedd yn wyth oed. Astudiodd yng Nghonservatoire Iau y Coleg lle perfformiodd ar gyfer Tywysog Cymru pan fu ar ymweliad â’r Coleg ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2006.

Daeth yn ail yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Texaco yn 2009 cyn ymuno ag Ysgol Purcell a Phrifysgol Caergrawnt, ac yn ddiweddar graddiodd o’r Academi Gerdd Frenhinol gyda rhagoriaeth a llond côl o wobrau mawreddog.

Anne Denholm. Llun: Timothy Ellis

Mae galw cynyddol am Anne fel dehonglydd a pherfformiwr cerddoriaeth newydd ac mae wedi bod yn cyflwyno perfformiadau premiere ac yn recordio gweithiau newydd ar gyfer y delyn ers 2006, yn ogystal â pherfformio gwaith byrfyfyr rhydd byw.

“Roedd dechrau yng Nghonservatoire Iau Coleg Brenhinol Cymru yn garreg filltir i mi yn y broses o symud fy natblygiad cerddorol i’r lefel nesaf,” meddai. “Cefais fy ysbrydoli gan athrawon gwych ar draws pob disgyblaeth, o berfformio i theori, a hefyd gan fy nghyd-fyfyrwyr y bûm yn creu cerddoriaeth ac yn chwerthin gyda hwy bob wythnos.

Elwais yn fawr hefyd gan rai o’r cyfleoedd dysgu cyrsiau byr, megis y sesiynau byrfyfyr rhydd a gyflwynodd faes cwbl newydd o greu cerddoriaeth i mi ac sydd erbyn hyn yn rhan annatod o’m gyrfa.”

Mae Anne hefyd yn diwtor yn yr ysgol haf Sound and Music flynyddol ar gyfer cyfansoddwyr ifanc lle bydd yn cynorthwyo artistiaid newydd i ddatblygu a gwireddu eu syniadau cerddorol. Un o’i nodau yw gwneud y delyn yn fwy hygyrch i’r genhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr ac felly mae wrth ei bodd bod Cyngres Telynau’r Byd yn dod i Gaerdydd yn 2020.

“Ni allaf aros. Mae hwn yn ddigwyddiad hollbwysig ym myd y delyn, ac un sy’n dwyn ynghyd nifer fawr o elfennau canu’r delyn o bob rhan o’r byd. Mae cael y gyngres ar garreg ein drws yn fraint y dylem fanteisio i’r eithaf arni, ac rwy’n siŵr y bydd y tîm sy’n ei chynnal yn gwneud gwaith rhagorol.”