Yn ôl i brif wefan CBCDC

Offerynnau Taro yn Cwrdd â’r Byd: Prosiect Diogo Gomes

24 Mawrth 2016

Ffeiliwyd o dan:

Offerynnau Taro

Ers dechrau ei gwrs gradd Meistr mewn Offerynnau Taro yn CBCDC yn 2014, mae Diogo Gomes wedi bod yn creu argraff arnom gyda’i agwedd entrepreneuraidd tuag at ei yrfa gerddorol.

Ar ôl dechrau gyda fideo promo ar ei dudalen Facebook (sydd wedi’i weld gan 12 mil erbyn hyn), mae wedi datblygu #PercussionMeetsWorld – blog fideo sy’n arddangos offerynnau taro ac yn taflu goleuni ar rai o elfennau mwyaf hynod bywyd pob dydd gyrfa fel cerddor.

Mae llwyddiant #PercussionMeetsWorld wedi rhoi sail i draethawd hir MMus Diogo, ac wrth iddo gyrraedd diwedd ei astudiaethau mae’n fwriad ganddo i’w wneud yn ganolbwynt ei yrfa, gan ddechrau gyda Thaith Ewropeaidd ychydig yn wahanol yr haf hwn. Gyda’i frawd a’i gi, bwriada Diogo berfformio gyda cherddorion stryd ym mhob gwlad, gan roi golwg unigryw ar ddiwylliant Ewropeaidd trwy lygaid cerddor.

“Mae wedi’i seilio ar syniad nad yw cerddorion stryd yn aml yn cael digon o glod, ac y dylai cerddoriaeth fod yn rhywbeth sydd ar gael i bawb, nid dim ond y rhai dethol,” meddai Diogo.

Yn ôl y disgwyl, mae Diogo yn defnyddio dulliau ariannu torfol cyfryngau cymdeithasol i geisio cefnogaeth ar gyfer y prosiect. Dyma fideo’r ymgyrch: