Yn ôl i brif wefan CBCDC

Prosiectau Allgymorth y Gwanwyn yn Cyrraedd 1,000 o Blant

12 Ebrill 2016

Mae rhaglen allgymorth lwyddiannus y Coleg wedi parhau yn 2016 gyda myfyrwyr yn cyflwyno cyfres o weithdai offerynnau taro mewn ysgolion lleol fel rhan o fenter a noddir gan Western Power Distribution.

Plant o Ysgol Gynradd Nant y Parc, Senghennydd, Caerffili, ar ôl eu gweithdy offerynnau taro

Ynghyd â’r tiwtor offerynnau taro, Phil Girling, mae’r myfyrwyr wedi rhoi’r cyfle i dros 1,000 o blant mewn pum ysgol wahanol yn Ne Cymru ddysgu am offerynnau taro a chreu cerddoriaeth gyda’i gilydd.

Meddai Michael Hearty, un o’r myfyrwyr offerynnau taro, “Roedd y plant mor frwdfrydig pan wnaethom ddangos iddynt beth yr oeddem yn mynd i’w wneud. Pan gawsant y cyfle i greu cerddoriaeth eu hunain, roedd hi’n amlwg faint yr oeddent yn ei fwynhau.

Oherwydd ein bod yn defnyddio offerynnau taro roeddent yn gallu cynhyrchu synau ar unwaith a oedd yn golygu ein bod yn gallu creu cerddoriaeth mewn dim o amser.”

Mae gwaith allgymorth yn rhan bwysig o hyfforddiant y myfyrwyr, gan ddatblygu eu sgiliau perfformio, cyflwyno a threfnu tra’n mynd â pherfformiadau a gweithdai creadigol a chyffrous i ysgolion ledled Cymru.

Y myfyrwyr Max Ireland a Lucy Crooks yn gweithio gyda’r plant ysgol

Mae rhaglen allgymorth y Coleg yn mynd ag ystod o berfformiadau a gweithdai i ysgolion yn ogystal â chanolfannau gofal dydd, canolfannau cymunedol a chartrefi gofal. Mae’r gweithgareddau, sy’n cynnwys perfformiadau opera ysgolion, gweithdai offerynnau taro, cyfansoddi ac adrodd storïau, wedi cyrraedd bron i 15,000 o blant oedran ysgol ledled Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cynhaliwyd y gweithgaredd diweddar hwn diolch i nawdd a chefnogaeth Western Power Distribution, a buddsoddiad ychwanegol gan raglen CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru.

Rhai o blant Ysgol Gynradd Oakfield, Y Barri, yn edrych ymlaen at ddod i weld “Santa’s Stressful Day” dros gyfnod y Nadolig

Fe wnaeth Western Power Distribution hefyd gefnogi perfformiad Nadolig y Coleg, Santa’s Stressful Day, a roddodd gyfle i ysgolion lleol ddod i weld y cyngerdd rhyngweithiol, a gynlluniwyd i gyflwyno plant i gerddoriaeth glasurol. Cynhaliwyd sesiynau allgymorth ochr yn ochr â’r ymweliadau, gyda’r bwriad o ysgogi diddordeb parhaus y plant mewn cerddoriaeth.