Am yr ail flwyddyn o’r bron, mae cwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau CBCDC wedi sicrhau’r gyfradd cyflogaeth orau bosibl. Cyflogwyd pob un o’r 14 myfyriwr a gwblhaodd y cwrs ym mis Hydref 2015 mewn rolau cyfatebol i’w cymwysterau a’u profiad erbyn y Nadolig. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r cwrs sicrhau cyflogaeth lawn.
Cyflogir graddedigion mewn amrywiaeth o rolau yn cynnwys rhaglennu, cynhyrchu, marchnata, datblygu, rheoli prosiect a gweinyddu gyda chyflogwyr yn amrywio o Gyngor Celfyddydau Cymru i Neuadd y Dref a Symffoni Birmingham ac Arts Depot, Llundain.
Cymerodd dwy o’n graddedigion 2015, Lucy Price a Rebecca Davies, ran yn y fideo hwn a grëwyd gennym llynedd. Mae Lucy erbyn hyn yn datblygu gyrfa lawrydd gyda chleientiaid sy’n cynnwys Pride Cymru, Theatr Ffynnon a Gŵyl Beyond the Borders, ac mae Rebecca yn Gynorthwyydd Cynhyrchu gyda No Fit State Circus yng Nghaerdydd.
Mae Toks Dada (yn y llun ar y brig), sydd hefyd yn ymddangos yn y fideo isod, erbyn hyn yn Gynhyrchydd Rhaglen yn Neuadd y Dref a Symffoni Birmingham.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau ar ein gwefan. I gael mynediad ar y cwrs ym mis Medi 2016, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar amser yw 30 Ebrill.
Ar ôl y dyddiad hwn, cysylltwch â’n tîm Derbyniadau yn uniongyrchol i gael cyngor ynglŷn â cheisiadau hwyr.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook