Yn ôl i brif wefan CBCDC

Dafydd, un o’n myfyrwyr, yn cyrraedd Rhestr Fer Perfformiwr y Flwyddyn Sondheim

3 Mai 2016

Ffeiliwyd o dan:

Theatr Gerddorol

Mae’r myfyriwr MA Theatr Gerdd Dafydd Gape wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Perfformiwr Fyfyriwr y Flwyddyn Cymdeithas Stephen Sondheim.

Cystadleuaeth eleni oedd y fwyaf hyd yma gyda dros 80 o fyfyrwyr o ysgolion drama y DU yn ymgiprys am ddim ond 12 lle yn y rownd derfynol.

Dafydd gyda’i gyd-fyfyriwr Hannah Roper yn ‘Anything Can Happen!’

Ar gyfer y rownd derfynol, a gynhelir mewn theatr yn y West End ar ddydd Sul 15 Mai, bydd angen i Dafydd baratoi a pherfformio cân gan Sondheim yn ogystal â chân sydd newydd ei chyfansoddi, a pherfformio darn ensemble gyda’r myfyrwyr eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Dafydd a’r cast yng nghynhyrchiad diweddar y Coleg o Anything Can Happen! yn Sherman Cymru

Caiff y rownd derfynol ei chyflwyno gan yr actor a’r perfformiwr theatr gerdd Julian Ovenden, gyda’r panel beirniaid yn cael ei gadeirio gan y newyddiadurwr cerdd Edward Seckerson ac yn cynnwys personoliaethau blaenllaw yn y diwydiant.

Bydd y myfyriwr buddugol yn derbyn gwobr o £1,000 a thlws a ddyfernir gan Noddwr y Gymdeithas, Julia McKenzie.

Perfformiad mwyaf diweddar Dafydd oedd yn y premiere o Anything Can Happen! ar gyfer CBCDC yn Sherman Cymru, gyda Stiles a Drewe eu hunain yn y gynulleidfa.

Ei ymddangosiad nesaf fydd yn Cabaret, a gyfarwyddir gan Paul Kerryson gyda’r coreograffi gan Tom Jackson Greaves, yn Theatr Richard Burton, CBCDC, 22-30 Mehefin 2016.