Yn ôl i brif wefan CBCDC

Portread o Un o Raddedigion CBCDC: Mark David Boden

11 Mai 2016

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Cyfansoddi

Mae Mark David Boden, cyfansoddwr a raddiodd o CBCDC, yn dathlu dau bremiere o’i waith yr wythnos hon fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg 2016.

Caiff Ghyll ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn Neuadd Hoddinott ar ddydd Iau, a chynhelir perfformiad cyntaf Forgotten Time, a gomisiynwyd gan Ŵyl Quatour Tana Gwlad Belg, ar ddydd Gwener 13 Mai.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, caiff llawer o gyfansoddiadau eraill Mark eu perfformiad premiere ac eir â hwy ar daith gan ystod o offerynwyr ac ensembles yn cynnwys Pumawd Nexus Reed yn y Swistir a Phedwarawd Sacsoffon Lunar yn y DU. Mae hefyd yn edrych ymlaen at bremiere gwaith siambr sylweddol yng Ngwlad Pwyl a gomisiynwyd gan y feiolinydd Bartosz Woroch, arweinydd Sinfonia Cymru.

Astudiodd Mark, sydd erbyn hyn yn ddarlithydd yn y Coleg, gyfansoddi yn CBCDC. Ymhlith ei amryw wobrau mae Medal Arian y Worshipful Company of Musicians a Chystadleuaeth Gwobrau Myfyrwyr Cyfansoddwyr Prydain.

Ef oedd Cymrawd Iau Ymddiriedolaeth Syr William Walton mewn Cyfansoddi ac yn 2015 derbyniodd Gymrodoriaeth John Clementi Collard uchel ei bri gan Worshipful Company of Musicians.

Mae Mark hefyd yn ymgynghorydd artistig i Sinfonia Newydd.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am gerddoriaeth Mark yma.