Mae tri o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Canwr Ifanc Sioe Gerdd y Flwyddyn Cymru 2016 yn dod o Goleg Brenhinol Cymru.
Yn ymuno â Dafydd Gape, a oedd hefyd yn rownd derfynol Myfyriwr Berfformiwr y Flwyddyn Cymdeithas Stephen Sondheim, mae Michael Lowe, enillydd Gwobr Ian Stoutzker, ac Ysgolor Andrew Lloyd Webber eleni, Jonathan Radford.
Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys David Thaxton o CBCDC, enillydd Gwobr Olivier am yr Actor Gorau a seren Les Miserables, Passion, a Love Never Dies, a Luke McCall, yr enillydd yn 2014.
Ar hyn o bryd mae Luke yn perfformio yn Les Miserables yn y West End. Perfformiodd yn nigwyddiad Proms yn y Parc Abertawe yn 2015, ac yn y Piazza Covent Garden ar gyfer Gwobrau Olivier 2016 (mae Luke i’w weld 7 munud i mewn i’r clip).
Cynhelir Rownd Derfynol 2016 yn Abertawe ar ddydd Sul 3 Gorffennaf.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook