Yn ôl i brif wefan CBCDC

Graddedigion Opera, Llwyddiannau Diweddaraf

25 Mai 2016

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera

Yn ogystal â dathlu uchafbwyntiau rhai o’n myfyrwyr Llais ac Opera presennol cyn cynhyrchiad newydd y Coleg o Falstaff, cawsom gyfle i edrych ar ddatblygiad rhai o’n graddedigion diweddar.

Aeth pob un o’r cyn-fyfyrwyr hyn ymlaen o Goleg Brenhinol Cymru i astudio yn y Stiwdio Opera Genedlaethol uchel ei bri.

Trystan Griffiths, gyda’i gyd-fyfyriwr Eirlys Myfanwy Davies, yw un o’r pedwar sydd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Canwr Cymru a gynhelir ddydd Mercher 25 Mai.

Trystan yng nghynhyrchiad ‘Y Ffliwt Hud’ CBCDC

Bydd enillydd y gystadleuaeth hon yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd y BBC 2017.

Ers gadael y Coleg mae Trystan wedi canu prif rolau gyda Scottish Opera ac Opera North. Yr haf hwn bydd yn ymuno ag un o’i gyd-raddedigion Rebecca Afonwy-Jones yng nghynhyrchiad haf Opera Cenedlaethol Cymru o Cavalleria rusticana & Pagliacci.

Bydd Trystan yn ailadrodd y rôl hon gyda Roberto Alagna y tymor nesaf pan fydd yn ymuno â’r Stiwdio Opera Rhyngwladol yn Zurich fel Artist Ifanc. Bydd hefyd yn perfformio am y tro cyntaf ym Mhroms y BBC gan berfformio yn Noson Olaf y Proms yn Serenade to Music Vaughan Williams dan arweiniad Sakari Oramo.

Ar ôl astudio yn y Stiwdio Opera Genedlaethol mae Reisha Adams, enillydd Gwobr Ian Stoutzker gyntaf y Coleg am ddawn gerddorol ragorol, wedi canu gydag Opera Gŵyl Glyndebourne a Scottish Opera, yn ogystal â chanu Pamina yn Ffliwt Hud yr ENO eleni.

Reisha Adams gydag Ian Stoutzker a Chadeirydd y beirniaid Carlo Rizzi

Perfformiodd Justina Gringyte, aelod o raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Tŷ Opera Brenhinol, rôl deitl Carmen yng nghynhyrchiad 2015 yr ENO. Enillodd wobr y Canwr Ifanc Gorau yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol yn 2015.

Justina yn chwarae rhan Carmen yng nghynhyrchiad diweddar yr ENO

Yn ymddangos ar y llwyfan gyda Justina yn Carmen oedd Artist Harewood yr ENO Rhian Lois yn chwarae rhan Frasquita. Yn ddiweddar bu Rhian yn canu gyda’r Tŷ Opera Brenhinol, Opera Cenedlaethol Cymru, ac fel Zerlina yn Don Giovanni gydag Opera Santa Fe.

Mae Artist Harewood ENO arall, Samantha Price, yn parhau â’i thymor prysur fel Orlofsky yn Die Fledermaus yn Opera Holland Park. Yn ogystal â bod yn Cherubino diweddar yn Priodas Figaro, bydd Sam yn canu rôl Kate Pinkerton yn Madame Butterfly yr ENO. Mae Orlofsky a Cherubino yn rolau y bu’n eu hastudio pan oedd yng Ngholeg Brenhinol Cymru.

Samantha Price yn ‘Priodas Figaro’ yr ENO

 

Bydd Falstaff, dan arweiniad Carlo Rizzi, ac wedi’i gyfarwyddo gan yr Athro Cadair Rhyngwladol mewn Cyfarwyddo Martin Constantine, yn Theatr Sherman, dydd Sul 26 Mehefin – dydd Mawrth 28 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth a thocynnau gweler Rhaglen CBCDC.