Yn ôl i brif wefan CBCDC

Myfyrwyr Opera, Llwyddiannau Diweddaraf

25 Mai 2016

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera
Cerddoriaeth

Wrth i’r rihyrsals dechrau ar gyfer cynhyrchiad newydd y Coleg o Falstaff ar ddiwedd mis Mehefin, roeddem yn teimlo ei bod hi’n adeg briodol i roi sylw i’r hyn y mae rhai o’n myfyrwyr llais ac opera yn ei wneud:

Bydd y myfyrwyr MA Opera presennol Chanae Curtis, Christine Byrne, Andrew Henley a Andrii Ganchuk i gyd yn ymddangos fel unawdwyr mewn perfformiad yn Neuadd Hoddinott fel rhan o Ŵyl y Llais ar 4 Mehefin.

Chanae Curtis yn cwrdd ag EUB Tywysog Cymru yn ystod Gala CBCDC ym Mhalas Buckingham ym mis Ionawr

O dan arweiniad Athro Cadair Rhyngwladol CBCDC mewn Arwain Carlo Rizzi, sydd hefyd yn arwain Falstaff, mae’r perfformiad yn dathlu 70 mlynedd o Opera Cenedlaethol Cymru, ac yn cynnwys côr cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a Chôr Forget-Me-Not.

Cynhelir yr ŵyl gelfyddydau ryngwladol newydd hon mewn lleoliadau o amgylch Caerdydd drwy gydol mis Mai a mis Mehefin, a bydd yn cynnwys Charlotte Church, John Cale a Rufus Wainwright ymhlith eraill.

Andrew Henley, gyda’i gyd-fyfyriwr MA Opera Emyr Jones yng Nghynhyrchiad CBCDC o ‘Albert Herring’

Mae’r myfyriwr MA Opera blwyddyn gyntaf Tom Smith yn chwarae rôl Fenton yn Falstaff. Ar hyn o bryd mae hefyd yn ymddangos fel un o’r Lehrbuben yn Die Meistersinger von Nürnberg, yn rhannu’r llwyfan gyda’i diwtor o CBCDC Adrian Thompson, yn Glyndebourne.

Bydd Andrii Ganchuk yn treulio mis Gorffennaf gyda rhaglen haf Berlin Opera, yn canu Escamillo yn Carmen.

Mae Sophie Levi, sydd hefyd yn fyfyriwr MA Opera, ac sydd ar hyn o bryd yn canu yng Nghorws Opera Cenedlaethol Cymru o Cavalleria rusticana & Pagliacci, wedi derbyn lle yn y Stiwdio Opera Genedlaethol uchel ei bri ym mis Medi.

Mae’n dilyn ôl troed nifer eraill o raddedigion opera CBCDC sydd wedi mynd ymlaen i astudio yno, yn cynnwys Trystan Griffiths a Justina Gringyte.

Bydd Falstaff yn dathlu cydweithrediad y Coleg gydag artistiaid rhyngwladol blaenllaw: o dan arweiniad yr Athro Cadair Rhyngwladol Carlo Rizzi, (sydd hefyd ar hyn o bryd yn arwain In Parenthesis, a Cavalleria rusticana & Pagliacci yn Opera Cenedlaethol Cymru), caiff y cynhyrchiad ei gyfarwyddo gan yr Athro Cadair Rhyngwladol mewn Cyfarwyddo, Martin Constantine, a bydd yr Athro Cadair Rhyngwladol mewn Opera John Fisher yn hyfforddi’r myfyrwyr.

Perfformir Falstaff yn Theatr Sherman o ddydd Sul 26 Mehefin hyd ddydd Mawrth 28 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth a thocynnau gweler Rhaglen CBCDC.

Noddir rhaglen Athrawon Cadair Rhyngwladol y Coleg gan Sefydliad Jane Hodge.