Yn ôl i brif wefan CBCDC

Pedwarawd Offerynnau Taro yn Lansio Prosiect y Genhedlaeth Nesaf Gorllewin Cymru

7 Mehefin 2018

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Offerynnau Taro

Y penwythnos diwethaf lansiodd y grŵp offerynnau taro Quartet19 brosiectau y Genhedlaeth Nesaf gyda’r sefydliad cerddoriaeth a chelfyddydau, Menter Rhosygilwen yn Sir Benfro.

Cydweithrediad newydd yw hwn gyda’r Coleg, sydd â’r nod o helpu i gyfoethogi bywyd diwylliannol yr ardal drwy ddod ag artistiaid a pherfformwyr rhagorol o Gymru a ledled y byd yno.

Yn ogystal ag arddangos eu ensembles, bydd myfyrwyr y Coleg yn gweithio gydag ysgolion uwchradd a cholegau lleol, gan roi cyfle i bobl ifanc brofi cerddoriaeth fyw, cyffrous ac amrywiol, fel aelodau o gynulleidfa ac mewn gweithdai.

Yn y prif lun gwelir Q19: y myfyrwyr James Harrison, Luke Baxter, Jemma Sharp ac Iolo Edwards

“Mae’n wych gweld y cydweithrediad cyffrous hwn rhwng ein hadran Offerynnau Taro bywiog a’r tîm deinamig yn Rhosygilwen,” meddai’r Pennaeth Perfformio Cerddoriaeth, Kevin Price.

“Mae’r prosiect yn dod â bywyd ac egni ein gweithwyr proffesiynol ifanc i ardal sy’n gyforiog o harddwch naturiol a thalent gerddorol naturiol

“Fel gwaith dilynol i’r cyngerdd cynhelir gweithdy offerynnau taro ym mis Medi ar gyfer pobl ifanc sydd wedi cael eu cyffroi gan y datganiad, gan alluogi CBCDC i gefnogi a meithrin etifeddiaeth creu cerddoriaeth yng Nghymru”

Bydd Q19 yn gweithio’n agos gyda Children’s Musical Adventures, cwmni sydd â’r nod o ysbrydoli cymaint o blant ifanc â phosibl i ymgysylltu â cherddoriaeth drwy weithdai mewn ysgolion a hefyd ar ffurf cyngherddau hamddenol i’r teulu.

Maent hefyd yn gweithio gyda Live Music Now Cymru i gyflwyno cyngherddau rhyngweithiol mewn cartrefi gofal ac ysgolion ledled Cymru.

Gan weithio gydag Owen Gunnell (un hanner O-Duo) mae Q19 wedi cyflwyno cyngherddau i’r teulu a gweithdai yn y Coleg, ac yn ddiweddar yng Ngŵyl Gerddoriaeth Haf Caergrawnt. Gallwch ddarganfod mwy amdanynt yn www.quartet19.com.

Mae’r digwyddiadau yn Rhosygilwen hefyd yn agored i’r cyhoedd.