Yn ôl i brif wefan CBCDC

Menywod CBCDC yn brysur… #Processions2018

14 Mehefin 2018

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Cyfansoddi
Pres

Dydd Sul, ymgasglodd miloedd o fenywod ynghyd ledled y DU – yng Nghaerdydd, Belffast, Caeredin a Llundain – i gymryd rhan mewn gorymdeithiau i ddathlu 100 mlynedd ers i fenywod gael pleidleisio am y tro cyntaf.

Roedd yn ddiwrnod gwych yng Nghaerdydd a’r haul ar ei anterth wrth i’r orymdaith ddilyn llwybr o Stadiwm Pêl-droed Caerdydd o flaen y Castell a heibio i’n drysau ni lle’r oedd ein band pres merched i gyd, a drefnwyd gan y chwaraewr Corn Ffrengig Alys Jones sydd yn ei blwyddyn olaf, yn chwarae.

https://www.instagram.com/p/Bj2aL54FAe5/?hl=en&tagged=rwcmd

Band Pres CBCDC yn barod i chwarae

Ymhlith y miloedd o fenywod a gymerodd ran oedd myfyrwyr a staff CBCDC, yn cynnwys y cerddorion Flora Farquharson a Julia Palmer. Y tymor diwethaf fel rhan o REPCo – wythnos entrepreneuraidd y Coleg a arweinir gan y myfyrwyr – gweithiodd Flora a Julia gyda’r cynllunydd Edie Morris a’r cyfansoddwr Pip Anning i greu Women Can 100 – cyngerdd yn dathlu storïau am fenywod mewn hanes gan ddefnyddio cerddoriaeth a ffilm.

“Roeddem am arddangos doniau menywod yn y Coleg,” meddai Flora, “roedd hwn yn gyfle gwirioneddol i ni ddathlu cyflawniadau menywod, ond roeddem hefyd am godi ymwybyddiaeth bod gennym o hyd ffordd bell i fynd.”

Datblygwyd Women Can 100 yn sefydliad nid er elw, er mwyn parhau i ddathlu a chefnogi llwyddiant menywod. Yr wythnos ddiwethaf trefnodd Flora a Julia brynhawn crefft – ‘Crafternoon’ – yn y Coleg lle gallai staff a myfyrwyr alw heibio i greu a chyfrannu at faneri ar gyfer yr orymdaith.

Bu Kristen Evans, myfyriwr cyfansoddi ail flwyddyn, yn rhan yn y dathliadau hefyd. Bu’n gweithio fel cyfansoddwr cynorthwyol gyda’r WNO ar gomedi gerddorol newydd o’r enw  Rhondda Rips It Up am y Fonesig Rhondda, un o’r swffragetiaid o Gymru.  Cast a thîm creadigol menywod yn unig sydd gan Rhondda Rips It Up, sydd yn cynnwys cyn-fyfyriwr Nicola Rose yn arwain y band degawd, ac mae nawr yn teithio’r DU ar ôl ei berfformiad cyntaf yng Nghasnewydd yr wythnos ddiwethaf.

Bydd tymor hydref y Coleg yn cynnwys cyngerdd pres a chyngerdd cerddorfa symffoni yn dathlu cyfansoddwyr sy’n fenywod, a fydd yn rhedeg ar y cyd â’r rhaglen ehangach o artistiaid eithriadol o ystod eang o gefndiroedd diwylliannol.