Llongyfarchiadau mawr i enillydd Gwobr Ian Stoutzker eleni, y clarinetydd Laura Deignan.
Dyma’r tro cyntaf i chwaraewr chwythbrennau ennill y wobr uchel ei bri hon sy’n dathlu cerddorion rhagorol y Coleg.
“Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd y cam hwn yn eich addysg mae’n rhaid i chi wneud y newid o fod yn rhywun sy’n cael ei addysgu i wneud, i rywun sy’n cyfrannu’r hyn y maent yn ei wneud i gynulleidfa,” eglura’r Arweinydd Peter Stark, Cadeirydd panel y beirniaid. “Mewn cystadleuaeth o’r statws yma rydym yn chwilio am y perfformiad sy’n ein denu i mewn, ac yn ein gwneud yn rhan o fyd eich cerddoriaeth.”
Ymunodd y pianydd Nuno Lucas, y feiolinydd Charlotte McClure a’r chwaraewr ewffoniwm Grant Jameson â Laura yn y rownd derfynol i gystadlu am y wobr gwerth £10,000, i gyfeiliant Cerddorfa Siambr y Coleg.
Yr enillydd Laura Deignan gydag Ian Stoutzker
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Neuadd Dora Stoutzker y Coleg, gerbron panel o feirniaid a oedd yn cynnwys David Purser, Miranda Dale a Cordelia Williams.
Mae enillwyr blaenorol Gwobr Stoutzker yn cynnwys Michael Lowe, Trystan Llyr Griffiths, Tianhong Yang ac Emyr Wyn Jones.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook