Yn ôl i brif wefan CBCDC

Pobl CBCDC: Ffliwtydd

9 Awst 2018

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Chwythbrennau

Dyma Charlotte Thomas, ffliwtydd a chyn-fyfyriwr diweddar a wnaeth astudio ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig yn y Coleg. Ers graddio mae hi wedi chwarae yn y BBC Proms ac wedi setlo lawr yng Nghaerdydd i ddilyn gyrfa fel cerddor proffesiynol. Mae Charlotte wedi bod yn chwarae yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon fel rhan o Encore yn Nhŷ Cerdd.

Mae hi’n siarad efo ni am gymryd y cam nesaf allan i’r byd, ac yn dweud tamaid wrthym am y pethau gorau am astudio yn CBCDC.

O le ydych chi’n dod yn wreiddiol?

Rwy’n dod o Wrecsam yng Ngogledd Cymru. Athrawon cerddoriaeth oedd fy rhieni a gwnaethant gwrdd yn y Coleg. Dechreuais chwarae’r ffliwt yn yr ysgol pan oeddwn i tua 8 oed, trwy Wasanaeth Cerddoriaeth Wrecsam. Rwy’n ddiolchgar ofnadwy am y cyfle yna, a wnaeth arweinio at chwarae yn ensembles rhanbarthol a chenedlaethol, a dyna wnaeth sbarduno fy nghariad o chwarae mewn cerddorfeydd. Gyno’i lawer i ddiolch nhw am!

Beth wnaethoch chi ei astudio yma?

Astudiais BMus aC MMus ar y Ffliwt, felly rydw i wedi bod yma am 6 mlynedd!

Achlysur hapusaf yn y Coleg?

Cyngerdd olaf y Gerddorfa Symffoni yn Neuadd Dewi Sant. Roedd y rhaglen yn un ddiddorol iawn ac roedd y cyngerdd fel petai wedi gweithio i’r dim. Pan wnaethom ni gyd godi ar ein traed ar y diwedd, cefais y teimlad ‘O mam bach, dyna ni, dyma’r tro diwethaf y byddaf yn codi ar fy nhraed yn un o ensemblau’r Coleg’.

Beth fyddwch chi’n ei wneud y tu allan i’r Coleg?

Mae addysgu a chwarae yn mynd â’r rhan fwyaf o’m hamser, ond yn fy amser hamdden byddaf yn mwynhau cerdded y ci pan fyddaf adref yng Ngogledd Cymru ac rydw i’n ceisio gwneud mwy o ymarfer corff – ychydig o loncian a nofio. Rwyf hefyd yn caru treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau.

Oes gennych chi unrhyw gynlluniau ar gyfer yr haf ac yna wedyn?

Mi fyddaf yn aros o gwmpas Caerdydd ac yn gwneud cymysgedd o chwarae ac addysgu. Ambell beth yma ac acw. Mae gen i ychydig o waith gyda’r BBC dros yr haf a pheth gwaith gyda’r WNO y tymor nesaf. Mae’r cyfan yn ganlyniad i gyfnod lleoliad ar y cwrs cerddorfaol a oedd mor fuddiol.

Beth ydych chi wedi ei greu/ei wneud yr ydych fwyaf balch ohono?

Dilynais fodiwl allgymorth eleni. Prosiect 6 wythnos oedd hwn ac fe es i ysgolion gyda grŵp o wirfoddolwyr o’r Coleg i gynnal gweithdy gyda dosbarth o ddisgyblion blwyddyn 5. Buom yn archwilio sut y gallem wneud synau bob dydd yn gerddoriaeth neu’n rhythm drwy rannu’r plant yn bedwar grŵp a chreu darn am Gaerdydd. Felly, y castell oedd un grŵp, roedd un arall yn cynrychioli’r Bae, y stadiwm oedd y trydydd grŵp a’r llall oedd canol y ddinas. Gwnaethom eu recordio a rhwng y darnau roedd gennym rythm bws, rhythm cwch a rhythm cerdded. Roedd yn grêt. Roedd y canlyniad yn llawer gwell nag yr oeddwn wedi’i ddychmygu ac roedd y plant mor frwdfrydig!

Beth yw’r cyngor gorau i chi ei gael erioed?

Rwy’n cofio gweld fideo am fywyd yn y Coleg yr oedden nhw’n arfer ei ddangos ar y sgrin ar adeg clyweliadau. Roedd y fideo yn cynnwys myfyriwr oedd wedi mynd ymlaen i wneud yn dda iawn ym maes rheolaeth yn y celfyddydau ac rwy’n ei gofio’n dweud wrthym am fod fel sbwng; manteisiwch ar bob cyfle. Yn gyffredinol, dyna’r cyngor a gawn yn aml yn y Coleg.

Beth fyddai orau gennych – cael eich cludo 100 mlynedd ymlaen mewn amser neu 100 mlynedd yn ôl mewn amser, a hynny’n barhaol?

Fe fyddai’r dyfodol yn ddiddorol ond byddai’r gorffennol yn llawer gwell gan y gallech weld sut oedd pethau ac ail-fyw eich bywyd er mwyn cael effaith fwy cadarnhaol ar y dyfodol.