Yn ôl i brif wefan CBCDC

Pobl CBCDC: Feiolinydd

24 Awst 2018

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Llinynnau

Cyflwyno Christiana Mavron, feiolinydd ac un aelod o Bedwarawd Mavron – pedwarawd sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac sydd wedi cael ei ganmol gan BBC Radio 3 fel “pedwarawd gorau Cymru.” Graddiodd Chrissie o CBCDC yn 2003 ac yn ddiweddar fe’i gwnaed yn un o Aelodau Cyswllt cyntaf y Coleg. Bydd hi’n chwarae unwaith eto gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn nhymor yr Hydref, sy’n agor gyda chynhyrchiad newydd David Pountney o War and Peace ym mis Medi.

Cawsom gyfle i gael gair gyda Chrissie i weld beth fu’n ei wneud yn ddiweddar a chlywed am rai o’i hoff brofiadau tra’n astudio yn y Coleg.

Beth wnaethoch chi ei astudio yn CBCDC?

MMus.

Beth ydych chi’n ei feddwl o’r Coleg nawr? Ydy e wedi newid?

Ydy wir, bu newid mawr gydag agor y neuadd gyngerdd newydd. Mae cyffro yn y Coleg gyda’r holl gyfleusterau newydd, sy’n grêt. Cyn yr agorwyd Neuadd Dora Stoutzker yn swyddogol, gofynnwyd i Bedwarawd Mavron chwarae yno er mwyn profi’r acwsteg. Roedd llawer o bobl yn cerdded o gwmpas gyda hetiau caled wrth i ni chwarae darnau o wahanol bedwarawdau llinynnol – roedd rhywbeth swreal am y peth.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr?

Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn gweithio gyda Helen Woods a Thîm Arts Active yn Neuadd Dewi Sant ar gyfer y Tiddly Proms – Cherry Pie’s Holiday Adventure (Roeddwn i’n chwarae rhan Vicky Feiolin!). Ond ar hyn o bryd rwy’n cymryd seibiant bach er mwyn treulio amser gyda fy nheulu a mwynhau gweddill yr haf.

Byddaf yn ôl gyda chwmni Opera Cenedlaethol Cymru am rywfaint o’i dymor Hydref. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at War and Peace a fydd yn opera newydd i mi – rwy’n hoff iawn o Prokofiev.

Bydd Pedwarawd Mavron yn teithio ym mis Hydref, gan gyflwyno’r gwaith newydd ‘Radio Amore’ gan y cyfansoddwr Charlie Barber. Rydw i wedi adnabod Charlie ers nifer o flynyddoedd, felly fe fydd yn braf cydweithio unwaith eto.

Wedi hynny byddaf yn gweithio gyda’r cyfansoddwr Tom Green i gynllunio taith arall o’r opera ddigidol ‘The World’s Wife’ y gwnaethom ei chomisiynu llynedd. Cyd-gynhyrchodd Pedwarawd Mavron y prosiect ochr yn ochr ag Opera Cenedlaethol Cymru ac Echo Forest ac ym mis Hydref 2017 gwnaethom berfformio’r gwaith am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Roedd y premiere yn arbennig iawn gan i’r bardd llawryfog Carol Ann Duffy, y mae’r opera wedi seilio ar ei cherddi, roi sgwrs cyn y cyngerdd a dangos cefnogaeth wirioneddol i’r hyn a wnaethom gyda’i gwaith! Buom yn teithio Cymru, a chawsom adolygiadau gwych, felly rydym yn gyffrous iawn i deithio gyda’r opera i fannau pellach.

Hoff atgof o’r Coleg?

Y sioe bypedwaith – roedd y profiad fel cerdded i mewn i freuddwyd.

Beth oedd y peth gorau a ddigwyddodd i chi wythnos diwethaf?

Dysgu Nadi Shodhana mewn ioga.

A oes unrhyw beth yr ydych yn difaru peidio ei wneud?

Does dim byd amlwg, ond ar y cyfan ceisio edrych ymlaen fydda’i.

A fyddai’n well gennych golli eich holl arian ac eitemau gwerthfawr neu’r holl luniau rydych wedi’u tynnu?

Colli fy holl luniau, fyddwn i ddim eisiau colli fy feiolin!