Yn ôl i brif wefan CBCDC

Anthony Lyn i Gyfarwyddo Cynhyrchiad Haf Theatr Cerddorol CBCDC

28 Awst 2018

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Theatr Gerddorol

Mae’n bleser gan y Coleg gyhoeddi y bydd Anthony Lyn, y cyn-fyfyriwr a chyfarwyddwr theatr gerdd ryngwladol,  yn cyfarwyddo cynhyrchiad Theatr Gerddorol haf y Coleg y flwyddyn nesaf.

Mynychodd Anthony seremoni raddio’r Coleg yn ddiweddar yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, lle dyfarnwyd Cymrodoriaeth Anrhydeddus iddo.

“Erbyn hyn rwy’n byw yn Efrog Newydd,” meddai Anthony, “ac felly rydw i wrth fy modd i gael y cyfle gwych hwn i ddychwelyd a chyfarwyddo yn y Coleg, man sydd wedi bod mor bwysig i mi am dros 30 o flynyddoedd!”

Anthony Lyn yn sgwrsio gyda myfyrwyr Theatr Cerdd yn y Theatr Richard Burton yn gynharach yn y flwyddyn

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth i Simon Stephens hefyd, y dramodydd ac Athro Cadair Ryngwladol Hodge mewn Drama. Ym mis Tachwedd bydd y Coleg yn llwyfannu premiere y DU o Rage gan Simon Stephens wedi’i chyfarwyddo gan Elle While, a gyfarwyddodd Blindsided Simon Stephens yn y Coleg a chael canmoliaeth y beirniaid.

Gweithiodd Stephens ar Rage mewn datblygiad gyda myfyrwyr y Coleg a Vicky Featherstone, a bydd yn derbyn ei Gymrodoriaeth pan fydd yn dychwelyd i weithio gyda’r myfyrwyr a gweld y perfformiad hwn.

Cyflwynwyd Punk Rock Stephens’ yn y Coleg blwyddyn diwethaf

Roedd Cymrodyr Anrhydeddus eraill 2018 yn cynnwys y cyn-fyfyriwr gwobrwyedig, y cynllunydd goleuo a set Ciaran Bagnall.