Yn ôl i brif wefan CBCDC

Myfyrwyr Rheoli Llwyfan yn ymddangos ar Raglen Gŵyl Caeredin y BBC

3 Hydref 2018

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Cynllunio a Chynhyrchu

Os yw’n fis Awst mae’n rhaid ei bod yn Ŵyl Caeredin: bob haf bydd ein myfyrwyr Rheoli Llwyfan yn mynd i’r ŵyl i gynnal Venue 13.

Eleni dilynodd rhaglen Wales in Edinburgh BBC Cymru Wales y tîm o Gaerdydd i Gaeredin a thro ein criw cefn llwyfan oedd hi i gael y sylw. Gallwch weld peth o’r rhaglen yma:

Credyd: Small and Clever Production ar gyfer BBC Cymru Wales

Llwyfannodd y tîm o 12 myfyriwr rheoli llwyfan 12 o sioeau dros bedair wythnos yr ŵyl gan drawsnewid y set bob 75 munud. Daeth cwmnïau o bob rhan o’r byd â chynyrchiadau yno yn amrywio o artistiaid drag i bypedwaith cysgodion, i wyddoniaeth plant, dychan a chomedi.

Mae gweithio yn Venue 13 yn cyflwyno’r myfyrwyr i’r ŵyl gelfyddydau ryfeddol hon, gyda llawer yn dychwelyd y flwyddyn ganlynol gyda swyddi yn y lleoliadau mwy eu maint.

“Byddwn yn adeiladu’r lleoliad llawn fel replica cyfan yn ein gofod theatr yn y Coleg yng Nghaerdydd cyn dod i Gaeredin,” esbonia Grace Bilsborough, un o reolwyr y lleoliad.
“Yna byddwn yn ei bacio a’i gludo i fyny i Gaeredin ar gyfer y cynhyrchiad go iawn.”

Yn aml caiff myfyrwyr hefyd gyfle i weithio ar sioeau eraill yn ystod yr ŵyl tra eu bod yno. Er enghraifft gweithiodd Grace hefyd fel aelod o’r tîm rheoli llwyfan ar gyfer sioe Benny y cyn-fyfyriwr Gareth John Bale.