Yn ôl i brif wefan CBCDC

PrynhawnD, Lin Manuel-Miranda!

8 Hydref 2018

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Cynllunio a Chynhyrchu
Theatr Gerddorol

Cafodd myfyrwyr y Coleg syrpreis mawr brynhawn heddiw gydag ymweliad annisgwyl gan seren fwyaf Broadway.

Cafodd Lin-Manuel Miranda, y gŵr a oedd yn gyfrifol am greu, ysgrifennu ac a serennodd yn y sioe gerdd ryfeddol Hamilton, seibiant o’i waith yn ffilmio His Dark Materials yng Nghaerdydd i ddod i gwrdd â myfyrwyr o sawl adran o’r Coleg.

Siaradodd dylunwyr a chyfansoddwyr gydag ef am eu harddangosfa Cerfluniau Papur yng nghyntedd y Coleg

Galwodd y cyfansoddwr, awdur geiriau, dramodydd, rapiwr ac actor gwobrwyedig o America mewn dosbarth perfformio theatr gerddorol, treuliodd amser gydag actorion yn ystod eu rihyrsal a bu’n sgwrsio â chynllunwyr a chyfansoddwyr.

Lin-Manuel Miranda yw’r unigolyn mwyaf arwyddocaol ym maes Theatr Gerddorol ein cyfnod; nid oes amheuaeth iddo ailddiffinio’r ffurf,” meddai Vivien Care, Pennaeth Theatr Gerddorol.

Mae’n fraint anhygoel i ni ei fod wedi dewis treulio peth o’i amser yng Nghymru gyda ni, ac mae’n wych gallu ei groesawu i’n Coleg a’i gyflwyno i’n myfyrwyr. Mae ei ddawn artistig gref, ei benderfyniad personol a’i garedigrwydd gwirioneddol yn ysbrydoledig, ac mae’n fraint brin y byddwn yn ei gofio am amser hir iawn.

Mae Lin-Manuel yng Nghaerdydd yn gweithio gyda’r BBC a HBO ar drioleg clodfawr Philip Pullman a gynhyrchir gan Bad Wolf.

Treuliodd Lin-Manuel amser gyda myfyrwyr theatr gerdd, yn gwrando arnyn nhw’n perfformio ac ateb eu cwestiynau

Mae tîm cynhyrchu o’r radd flaenaf Bad Wolf sydd wedi ymgynnull yn Stiwdio Blaidd Cymru yng Nghaerdydd yn cynnwys dros 22 o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformiad y Coleg. Mae’r rhain yn cynnwys y Cyfarwyddwr Oruchwylio Celf James North, Ros Mather, a raddiodd llynedd ac sy’n gynorthwyydd yr adran gelf, myfyriwr actio presennol Ruby Hartley sy’n gweithio fel artist llais, yn ogystal â phaentwyr, cynllunwyr gwisgoedd a golygfeydd.

Gwrando ar ensemble pres yn ymarfer yn Neuadd Dora Stoutzker

Mae Lin-Manuel hefyd yn adnabyddus iawn am greu a serennu yn y sioe gerdd Broadway In the Heights, a hefyd am gyd-ysgrifennu’r caneuon ar gyfer Moana Disney. Bydd i’w weld ar y sgrin fawr y Nadolig hwn pan fydd yn cyd-serennu gydag Emily Blunt yn Mary Poppins Returns.

Ymhlith y llu o wobrau mae Lin-Manuel wedi eu casglu y mae Gwobr Pulitzer, tair Gwobr Grammy, Gwobr Emmy a thair Gwobr Tony. Yn 2016 soniwyd amdano yng nghylchrgawn Time fel un o’r 100 ‘Person Mwyaf Dylanwadol yn y Byd’ ac yn ddiweddarach eleni bydd yn derbyn seren ar yr Hollywood Walk of Fame.