Yn ôl i brif wefan CBCDC

Premiere Radio 3 arall ar gyfer y Cyfansoddwr Ifanc & Clarinetydd Sarah Jenkins

4 Rhagfyr 2018

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Chwythbrennau

Llongyfarchiadau i Sarah Jenkins, y clarinetydd sydd yn ei thrydedd flwyddyn!

Nid oedd ennill Cystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Cynllun Inspire Proms y BBC ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf yn ddigon i Sarah, caiff ei chyfansoddiad diweddaraf And the Sun Stood Still ei berfformio am y tro cyntaf gan Gerddorfa Gyngerdd y BBC y mis hwn a’i ddarlledu’n fyw ar BBC Radio 3.

Perfformiwyd ei darn buddugol, Three Miniatures of Ynys Lawd, y gwnaeth ei gynnig ar gyfer y gystadleuaeth pan oedd yn 18 oed gan Gerddorfa Aurora a’i ddarlledu ar BBC Radio 3 ym mis Awst 2017.

Yna comisiynwyd Sarah gan y BBC i ysgrifennu gwaith newydd yn seiliedig ar osodiadau Gustav Mahler o Des Knaben Wunderhorn. Cafodd ei mentora gan y cyfansoddwr Martin Suckling a pherfformiwyd ei darn Trallali, Trallaley, Trallalera ar gyfer piano a cherddorfa siambr gan Gerddorfa Aurora o dan arweiniad Christopher Stark ym mis Awst 2018 a darlledwyd hwnnw hefyd ar BBC Radio 3.

Yna cafodd gomisiwn gan Gerddorfa Gyngerdd y BBC i gyfansoddi darn newydd ar gyfer ei chyngerdd Winter Lights. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer And the Sun Stood Still, a fydd yn cael ei arwain gan Bramwell Tovey ar 5 Rhagfyr yn Neuadd Queen Elizabeth, yw byrddydd y gaeaf ac fe’i perfformir fel premiere byd ochr yn ochr â gwaith newydd gan y cyfansoddwr preswyl, Dobrinka Tabakova.

Bu Sarah hefyd yn Llysgennad Cynllun Inspire Proms y BBC am y tair blynedd diwethaf; gan gynorthwyo i hwyluso gweithdai ar gyfer pobl ifanc.

“Mae fy rôl fel Llysgennad wedi rhoi gwir angerdd i mi am addysg cerddoriaeth a phwysigrwydd ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fod yn greadigol.”

 

“Yr hyn rwy’n hoffi fwyaf am dy stori yw nid ennill cystadleuaeth Inspire Proms y BBC flwyddyn yn ôl… Yr hyn a wnaeth ar yr argraff fwyaf arnaf, yn anad dim, yw pa mor dda yw dy gerddoriaeth – mae’n gryf, yn hyderus, mae strwythur da iddo, mae’n ddi-ffws ac mae iddo deimlad clir ac uniongyrchol o bwrpas – yn sicr mae gen ti rywbeth i’w ddweud, ac mae fel petai gen ti’r gallu i fynegi dy syniadau cerddorol gyda meistrolaeth dda ar harmoni, llinell, trefniant offerynnol, gwead a lliw sy’n rhyfeddol. Mae’r gerddoriaeth yn gweithio’n wych, mae’n fwy na dim ond casgliad o’i elfennau, ac mae’n deimladwy iawn.” John Hardy, Pennaeth Cyfansoddi CBCDC.

Meddai Sarah:

“Mae’r Coleg wedi bod yn wych yn fy nghefnogi a’m hannog i barhau i gyfansoddi ochr yn ochr â’m prif astudiaeth ar y clarinét, gan ganiatáu i mi feithrin casgliad o sgiliau mor amrywiol â phosibl. Dechreuais ganu’r piano cyn symud ymlaen at y clarinét – ond rydw i wastad wedi mwynhau cyfansoddi ac roeddwn am barhau gyda hynny. Mae’r cyngor, yr anogaeth a’r gefnogaeth gan y Pennaeth Cyfansoddi, John Hardy, wedi bod yn rhyfeddol ac rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth fy Mhennaeth Adran, Nick Carpenter. Bu’n gyfle ac yn brofiad dysgu hynod i weithio gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC a’r arweinydd Bramwell Tovey – maent wedi bod mor gefnogol ac ymroddedig i roi bywyd i’m syniadau.”