Yn ôl i brif wefan CBCDC

Kevin McCurdy: Ymladd ar Lwyfannau o Hollyoaks i Hollywood

6 Rhagfyr 2018

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Cynllunio a Chynhyrchu

Mae stori enwog am y tiwtor Ymladd Llwyfan Kevin McCurdy, sydd newydd gyfarwyddo The Glass Menagerie yn y Coleg, yn gwrthod gwers addysgu gan fod yn rhaid iddo fynd i ddysgu Nicholas Cage sut i ymladd.

The Glass Menagerie

Dro arall pan oedd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Siarl yn ymweld â’r Coleg, fe’i dysgodd i daflu dwrn ffug gan ddweud ‘cer amdani!’

Mae galw mawr am sgiliau Kevin, sy’n Gyn-fyfyriwr a Chymrawd y Coleg: bydd yn gweithio’n rheolaidd ar y gyfres Hollyoaks ac mae wedi gweithio gyda’r holl brif theatrau yn cynnwys y National, Royal Shakespeare Company, Manchester Royal Exchange. Mae wedi cyfarwyddo brwydrau ar gyfer yr holl brif gwmnïau teledu yn cynnwys y BBC, Channel 4 a Sky 1.

Yn ei waith ffilm a llwyfan mae wedi coreograffio brwydrau gyda Ron Perlman, Ciaran Hinds, Ralph Fiennes a Olivia Coleman, yn ogystal â ffilmiau ar gyfer Disney Pixar a Canaries sydd allan nawr ar Sky Movies.

The Glass Menagerie

Mae hefyd wedi coreograffio fideos cerddoriaeth, yn fwyaf diweddar ar gyfer Off Bloom ‘Shut Up And Let Me Walk’

a ‘A Friend’ gan Formation

Felly, beth sy’n dal i ddenu Kev yn ôl i’r Coleg hyd yn oed pan fo Hollywood yn galw?

‘Yr awyrgylch. Daw popeth o’r gwreiddiau. Mae gallu mynd allan i’r diwydiant ac yna ddod â’r holl wybodaeth yn ôl i’r myfyrwyr yn hollbwysig – mae’n gylch rhinweddol. Mae’r cyfeillgarwch sydd yma rhwng y staff a’r myfyrwyr yn rhyfeddol. Mae fel bod yn aelod o un teulu mawr – dyna sy’n gwneud i mi fod eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.

Pan raddiais dywedais pe bawn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i addysgu yna hwn fyddai’r unig Goleg y byddwn am addysgu ynddo. Yn ôl yn 2005 cefais y cyfle hwnnw ac roedd hynny’n ddigon i mi. Mae popeth arall yn ychwanegol.”

Mae Kevin hefyd yn gyd-sylfaenydd yr Academy of Performance Combat, mae’n Arweinydd DU yn ei faes ac ef oedd y Cyfarwyddwr Ymladd Proffesiynol Equity du cyntaf yng nghymdeithas British Fight Directors.

The Glass Menagerie

Wedi The Glass Menagerie bydd yn dychwelyd i Hollyoaks ac yna Shakespeare’s Globe i weithio ar Edward II – mae llawer o ymladd da i’w goreograffio yno!