Yn ôl i brif wefan CBCDC

NEWYDD:2019 – Gŵyl Ysgirfennu Newydd CBCDC yn Dychwelyd

25 Chwefror 2019

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Cynllunio a Chynhyrchu

Mae’n Wanwyn, felly mae’n gyfnod NEWYDD unwaith eto!
Mae ein gŵyl ysgrifennu newydd yn dychwelyd am y chweched flwyddyn.

https://www.instagram.com/p/BuBzT-CA-8C/

Mae NEWYDD yn rhoi cyfle i’n Cwmni Richard Burton weithio ar ddramâu sydd wedi’u hysgrifennu’n arbennig ar eu cyfer hwy gan bedwar ysgrifennwr sy’n dod i’r amlwg, ac wedi’u cyfarwyddo gan rai o ddoniau newydd mwyaf cyffrous y DU.

Mae’r Coleg yn cydweithio gyda phedwar cwmni theatr gwych, Paines Plough, Theatr Sherman, Royal Court a The Gate Theatre i greu pedair drama newydd sbon sy’n bryfoclyd, heriol a llawn ysbrydoliaeth, ac yn gofyn y cwestiynau mawr – eleni ymdrinnir â phopeth o ddiwylliant cyffuriau i arwahanrwydd cymdeithasol, i iwtopia llawen lle mae natur wedi cymryd drosodd…
Y Dramâu

NEWYDD:2019 Ysgrifenwyr a Chyfarwyddwyr

Between Eternity and Time, ysgrifennwyd gan Jacob Hodgkinson, cyfarwyddir gan Hannah Noone, mewn cydweithrediad â Theatr Sherman
Mae Maja ar goll ac yn chwilio am le yn y byd. Ond wedi cyrraedd Bangor, fel cludwr cyffuriau o Lerpwl, mae digwyddiadau yn gwneud iddi amau ai dyma’r byd roedd hi’n perthyn iddo yn y lle cyntaf.

https://twitter.com/josiejanefox/status/1097592873489494017

Kasimir and Karoline ysgrifenwyd gan Abigail Browde a Michael Silverstone, gyda Saša Čeleski, cyfarwyddir gan Fumi Gomez, mewn cydweithrediad â Gate Theatre
Wedi’i seilio ar Kasimir Und Karoline gan Ödön von Horváth, cyfieithwyd gan Saša Čeleski
Pa obaith sydd gan gariad mewn byd lle diffinnir llawenydd gan yr hyn sydd gennym? Yn fuan wedi i Kasimir gael ei wneud yn ddi-waith mae ei berthynas yn chwalu.

Loam, ysgrifennwyd gan Bea Roberts, cyfarwyddir gan Donnacadh O’Briain, mewn cydweithrediad â Royal Court Theatre

Y cyfnod yw’r presennol, mwy neu lai, ac mewn dinas fawr fudr mae miloedd o bobl y dechrau peswch pridd. Wrth i’r chwyldro newydd hwn ddechrau blodeuo mae arbenigwyr yn cael eu drysu’n llwyr, mae’r llinellau brys yn or-brysur ac nid yw vigilantes sy’n cicio coed yn helpu dim ar y sefyllfa.

Turbines, ysgrifennwyd gan Sarah McDonald Hughes, cyfarwyddir gan Emily Ling Williams, mewn cydweithrediad â Paines Plough
Saith myfyriwr Uned Atgyfeirio Disgyblion ysgol fawr mewn tref glan y môr fechan, oer ac anghofiedig yn rhywle yng Ngogledd Lloegr. Maent yn ifanc ac yn llawn anobaith ac ni allant aros i fynd allan i’r byd mawr. Ond mae’r byd yn lle peryglus, ac maent yn gwybod y bydd yn rhaid iddynt arfogi eu hunain os ydynt am oroesi.

Dydd Mawrth 19 Mawrth – Dydd Iau 21 Mawrth
Coleg Brenhinol Cymru, Caerdydd
029 2039 1391
www.rwcmd.ac.uk

Dydd Mawrth 2 – Dydd Gwener 5 Ebrill
Gate Theatre, Notting Hill, Llundain
020 7229 0706
www.gatetheatre.co.uk

Holl luniau: Kirsten McTernan