Yn ôl i brif wefan CBCDC

NEWYDD: Cynllunio Kasimir and Karoline

21 Mawrth 2019

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Cynllunio a Chynhyrchu

Cafodd y Cynllunydd Harry Lee y dasg enfawr o gynllunio ar gyfer dwy o’n dramâu NEWYDD:2019, Between Eternity & Time, a Kasimir and Karoline

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cynllun y ddrama hon?

Mae’r ddrama’n seiliedig ar nofel o’r un enw a ysgrifennwyd yn y 1930au, felly yr ysbrydoliaeth yma oedd mynegiadaeth yr Almaen: osgoi set naturiolaidd – er mai yma y mae unrhyw gysylltiad i’r cyfnod hwnnw’n gorffen. Roedd Fumi (y Cyfarwyddwr Fumi Gomez) yn awyddus i osgoi cael ein maglu yng ngwleidyddiaeth gymhleth yr Almaen y cyfnod, gan ganolbwyntio yn hytrach ar y themâu personol oesol o rym, arian a thrais.

Roedd ffilm The Cabinet of Dr Caligari (1920) yn ddylanwad allweddol o’r dechrau, o ran ei siapiau llym, onglog ac anghymesur, ac o ran palet lliwiau natur ffair liwgar ei phosteri.

Mewn cyferbyniad llwyr, mae’r gwisgoedd Bauhaus gwych, a gynlluniwyd gan Elle Lin, bron yn gyfan gwbl ddu a gwyn, penderfyniad allweddol a wnaed ar y cyd yn gynnar iawn yn y broses, gyda’r nod o wahanu ysmaldod maes y ffair a natur ddifrifol y cymeriadau.

Sut mae’r set yn adlewyrchu’r ddrama?

Mae’r set yn adlewyrchu diffyg pwrpas a bodolaeth digyfeiriad y cymeriadau eu hunain; haniaethol, sigledig a throellog. Mae teimlad cryfach o realiti, ymosodiad ar y synhwyrau yn lliwiau disglair goleuadau’r ffair.


Mae saeth enfawr wedi’i oleuo, sy’n rhedeg ar draws y llawr ac yn pwyntio i fyny, i fyny i awyr dywyll y nos, yn cael lle blaenllaw ar y llwyfan. Mae’r sgript yn llawn trosiadau gweledol ar gyfer dyheadau mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol, cymdeithasol neu economaidd: uchelfannau ac iselfannau’r reidiau colli cylla, awyrlongau yn llawn teicwniaid cyfoethog, awyr serog yn frith o gytserau cosmig… Mae’r cymeriadau yn edrych i fyny yn aml ac yn gobeithio, gweddïo am rywbeth gwell; roeddwn am i hyn gael ei gynrychioli cymaint â phosibl yn y set.

Mae golau hefyd yn chwarae rôl allweddol yn y gofod hwn, ond nid yn yr un ffordd ag y mae yn Between Eternity and Time. Mae awgrymiadau garw, mynegiadol o oleuadau’r ffair yn smotiau yn y gofodau uwchben y gynulleidfa a’r actorion fel ei gilydd, gan orchuddio pawb mewn rhith o natur Disney o olau’r sêr: yn bryfoclyd, ond yn y pen draw yn ffug.

Drama dywyll ydyw, ac mae gwytnwch y rheini sy’n ei anheddu, hyd yn oed yn wyneb methiant anochel, yn gadael i’r gynulleidfa benderfynu a yw bywyd yn perthyn i’r optimist neu’r pesimist.

Photos:Mark Douet