Yn ôl i brif wefan CBCDC

NEWYDD2019: Cynllunio Between Eternity & Time

21 Mawrth 2019

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Cynllunio a Chynhyrchu

Cafodd y Cynllunydd Harry Lee y dasg enfawr o gynllunio ar gyfer dwy o’n dramâu NEWYDD:2019, Between Eternity & Time, a Kasimir and Karoline

Bu’n sgwrsio gyda ni am yr heriau a’r hyn â’i ysbrydolodd wrth gynllunio ar gyfer y ddau waith arbrofol a chyffrous yma:
Yn gyntaf Between Eternity & Time:

Mae NEWYDD yn arbennig o heriol ar gyfer y cynllunydd oherwydd y cyfnod byr sydd rhwng y gwahanol sioeau:

Disgrifiodd cyfarwyddwr y sioe, Hannah Noone, y darn fel ‘epig’ ar sawl achlysur, eto nid yw’r gofod ei hun felly o bell ffordd! Mae’r lleoliad yn dal llai na chant o bobl ac mae’r criw yn fychan iawn, felly byddwn yn aml yn defnyddio dull tebyg i theatr ymylol, gyda phawb yn cydweithio mewn tîm agos, sy’n golygu bod rolau yn aml yn gorgyffwrdd.

Er enghraifft, yn aml bydd llai na deugain munud rhwng sioeau yn ystod Tymor Newydd, felly mae cael set y gall y criw rheoli llwyfan ei symud yn hawdd yn helpu i wneud popeth i redeg yn esmwyth o’r cychwyn cyntaf.

Felly, creais luniadau adeiladu yn gynnar iawn yn y broses cynllunio er mwyn gwneud yn siŵr y gellid adeiladu a thynnu’r set yn rhydd yn hawdd mewn cyfnod byr o amser.

Soniwch wrthym am yr heriau o gynllunio ar gyfer y lleoliad penodol yn Gate Theatre:

Mae fy hoffter mwyaf a fy nghefndir theatr ym maes theatr lleoliad benodol, felly rwy’n hoff o’r her a geir mewn gofodau o’r fath.
Ac mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ymwneud â’r lleoliad: mae nenfydau isel yn cyfyngu ar uchder y set; prin iawn yw’r gofod storio felly mae’n rhaid i setiau yn aml fod fel ‘dol Rwsiaidd’; mae siâp anghyffredin i’r lleoliad ei hun, gyda thrawstiau a phileri mewn mannau anarferol (ac weithiau rhwystredig).

Oherwydd y cyfyngiadau o ran gofod/storio set mae’r ddrama yn aml yn dibynnu ar olau (y Cynllunydd Goleuo yw Leonora Nicholson) i gynorthwyo i greu’r gwahanol leoliadau a’r naws. O ddechrau’r broses cynllunio roeddwn i’n gwybod fy mod am i’r set fod fel cynfas gwag ar gyfer y goleuo, gan ganiatáu ar gyfer newidiadau golygfeydd cyflym rhwng nifer o wahanol leoliadau ac amseroedd y dydd.

 

Beth oedd eich ysbrydoliaeth ar gyfer set Between Eternity and Time?

Pensaernïaeth friwtalaidd yn seiliedig ar flociau fflatiau ystâd cyngor yn Lerpwl, a oedd yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd eu hamodau byw gwael a’u gofodau adfeiliedig.

Mae prif gyfeiriad plot y ddrama yn cydfodoli â chyfres o olygfeydd fforest realiti dwysach; y ddau fyd yn raddol yn plethu wrth i’r stori gyrraedd ei hanterth. Yn hollbwysig, mae’n ddrama o gyferbyniadau – diogel/anniogel, arbrofi/diogelwch, trefol/naturiol, ac roeddwn am ddangos hynny yn y cynllunio. Mae’r cynllun set concrid noeth yn cynnwys haenau o arlliwiau daearol cynnil sy’n uno ymhellach y ddau fyd, yn ogystal â llwydni gwyrdd-ddu tywyll ar ymylon y set, er mwyn ymdoddi waliau du y lleoliad i mewn i’r set.

 

Mae tempo cyflym i’r ddrama, gyda 21 o olygfeydd ac wyth gwahanol leoliad. Er mwyn mynd i’r afael â hyn mae’r cynllun yn cynnwys blociau modwlar, y gellir eu tynnu o’r set i’w defnyddio fel seddi, pentanau, byrddau coffi… bron unrhyw beth sydd ei angen ar y set. Maent hefyd yn golynnog er mwyn storio propiau sydd angen cael gafael arnynt yn gyflym wrth newid golygfeydd. Wrth ôl-ystyried, mae ymarferoldeb a chynllun plaen, briwtalaidd y set yn gweithio’n dda gyda’i gilydd!

Cytunodd Hannah a minnau yn gynnar iawn bod angen i sail y cynllun fod mewn gwirionedd, ond un gris bychan oddi wrth realiti, gan fod rhai o themâu a golygfeydd y ddrama yn ddwys iawn yn hyn o beth. Mae’r holl bropiau a ddefnyddir yn y ddrama wedi’u rendro yn yr un concrid a llwydni gwyrdd â’r set, tra bod y gwisgoedd i gyd yn naturiolaidd, ond gyda’r labeli wedi’u tynnu.