Yn ôl i brif wefan CBCDC

Dewch i gwrdd â’n Hathro Cadair Rhyngwladol mewn Rheoli Llwyfan: Tim Routledge

28 Mawrth 2019

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Mae gan ein Hathro Cadair Rhyngwladol Hodge newydd mewn Rheoli Llwyfan, sy’n gyn-fyfyriwr (ac yn Gymrawd) y Coleg, Tim Routledge, ‘showreel’ sy’n dweud y cyfan.

Mae ei CV yn darllen fel rhestr o rai o’r sioeau a digwyddiadau mwyaf a gorau o bob rhan o’r byd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf: Beyonce, Sam Smith, The Spice Girls, Take That, The X Factor… heb sôn am oleuo seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, Gemau’r Gymanwlad Glasgow, a Seremoni Drosglwyddo’r Gemau Olympaidd o Beijing, a llawer mwy.

Gallwch weld hyn drosoch eich hun:

Ymhlith gwobrau niferus Tim mae Cynllunydd Goleuo y Flwyddyn – 2019 a 2015, Gwobr Total Production International (TPi ), Royal Television Society a BAFTA Cymru, EMMY ac mae wedi’i enwebu am wobr BAFTA.

Yma gellir gweld Tim yn y Gwobrau TPi lle enillodd wobr Cynllunydd Goleuo y Flwyddyn, ynghyd â chriw o CBCDC: Clare Porter, a raddiodd o’r Coleg, a oedd hefyd yn aelod o staff tan yn ddiweddar, a’r graddedigion Josh Kroon a Kay Divane. Yn bresennol ar y noson hefyd oedd Jasmine Williams, sydd yn ei thrydedd flwyddyn, a lwyddodd i gael y swydd cynllunydd goleuo cyswllt ar gyfer lolfa’r noddwyr Robe yn y seremoni.