Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cynllunio The Hunchback of Notre Dame

1 Gorffennaf 2019

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu
Theatr Gerddorol

TK Hay yw’r cynllunydd sy’n gyfrifol am set ryfeddol ein cynhyrchiad presennol o Hunchback of Notre Dame. Mae TK, sydd erbyn hyn yn ei bedwaredd flwyddyn, yn hanu o Singapôr a bu’n gweithio ar ystod o brosiectau yno cyn dod i’r Coleg i astudio Cynllunio ar gyfer Perfformio.

Yma mae’n sôn am yr heriau o ddod â’r Gadeirlan enwog hon yn fyw yn Theatr Richard Burton.

Mae fy mhrofiad yma yn y Coleg wedi fy helpu i feithrin fy sgiliau creu modelau a chrefft golygfeydd. Yn fy mlwyddyn olaf rydw i hefyd wedi gallu datblygu fy ngwaith mewn rôl rheoli gan ddod i uchafbwynt yn y gwaith o gynllunio cynhyrchiad y Coleg o Hunchback.

Mae’r holl brofiad hwn wedi rhoi’r hyder i mi ail-greu’r gadeirlan er mwyn dod â’r sioe gerdd yn fyw.

Roedd yn golygu creu ffenestr liw 6m mewn diamedr y gellir ei gweld yn crogi uwchben y gynulleidfa yn Theatr Richard Burton y Coleg.

Mae hyn wedi ychwanegu at fy mhrofiad blaenorol o weithio gyda chynllunwyr megis Francis O’Connor, a graddedigion gwobrwyedig y Coleg Madeleine Girling a Tom Scutt, yn ogystal â chyfnod ar leoliad gyda’r National Theatre.

Un o’r heriau mwyaf fu cadw’r cynlluniau’n dryw i waith Disney. Rwy’n fwy cyfarwydd â chynllunio a chreu setiau mwy agos atoch, yn hytrach na natur mawr a beiddgar cadeirlan cynhyrchiad Hunchback. Mae hyn wedi golygu y bu’n rhaid i mi ystyried graddfa ond hefyd cynnwys y manylder sydd ei angen ar gyfer y sioe.

Gellir gweld cynhyrchiad The Hunchback of Notre Dame yn y Coleg tan ddydd Mercher 3 Gorffennaf – nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael.

Gallwch ddarllen rhagor am waith TK ar ei safle we www.tkhay.design– ac am y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio yma.

Ffotograffiaeth Kirsten McTernan

Tim Creadigol:

Cyfarwyddwr: Graham Gill

Cyfarwyddwr Cerddorol : Michael Morwood

Coreograffydd: Grace Warner

Cynllunydd Set: TK Hay

Cynllunydd Goleuadau : Rachel Astall

Cynllunydd Sain: Nathan Williams

Cynllunydd Gwisgoedd: Yu Lin

Storïau Cysylltiedig

http://blog.rwcmd.ac.uk/2014/09/23/theatre-design-creative-artistic-and-practical/

http://blog.rwcmd.ac.uk/2011/10/24/tom-talks-to-time-out/