Yn ôl i brif wefan CBCDC

Glutz: Pypedwaith yn y Prague Quadrennial

Bu ein myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio yn perfformio yn y Prague Quadrennial unwaith eto yr haf hwn.

Cydweithiodd ein cynllunwyr llwyfan, rheolwyr llwyfan, actorion a cherddorion jazz gyda’r cyfarwyddwr cerdd i gynhyrchu Glutz, dathliad sy’n dwyn ynghyd ddiwylliant Prâg a Chymru, ac fe’i perfformiwyd yn Sgwâr Jan Palach.

View this post on Instagram

#rwcmdglutz

A post shared by RWCMD Puppetry 2019 – GLUTZ (@rwcmdglutz) on

Mae’r Prague Quadrennial yn dathlu’r gorau mewn pensaernïaeth theatr, cynllunio ar gyfer perfformio a senograffeg, ac yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg mewn arddangosfeydd, perfformiadau a gweithdai ledled prifddinas y Weriniaeth Tsiec.

Mae sioe gerdd pypedwaith eleni yn adrodd hanes Eva, merch yn ei harddegau sy’n darganfod bod ganddi’r ddawn i wneud i gerfluniau’r Iarll Glutz ddod yn fyw.

Cawsom air gyda’r cynllunydd Em Spoor a’r pypedwr Ruby Boswell-Green wedi iddynt ddychwelyd.

“Fel unigolyn mae’n atgoffa rhywun o’r gymuned yr ydych yn mynd iddi,” meddai Em. “Mae’n ddathliad o gynllunio ar gyfer perfformio, ac mae bod yn rhan o’r ŵyl ac arddangos eich gwaith yno yn brofiad gwych.

Roedd perfformio i gynulleidfa am y tro cyntaf a gweld ymateb pobl oedd heb weld dim byd tebyg o’r blaen yn rhyfeddol.

Roedd y modd y trefnwyd y sioe yn golygu bob pobl a oedd yn cerdded heibio yn aros ac yn gwylio – weithiau am funud neu ddau, weithiau’n aros i wylio’r sioe gyfan.”

Temilodd Ruby bod cyfranogi yn hynod werth chweil, a chael adborth gan aelodau’r cyhoedd oedd yr uchafbwynt iddi hi.

Fodd bynnag, roedd y gwres yn ninas Prâg yn gwneud perfformio yn heriol, ond ni wnaeth hynny leihau ei mwynhad cyffredinol o’r profiad, ‘Fy hoff ran oedd teimlo ein bod wedi cynhyrchu rhywbeth a oedd yn gyffrous ac yn wahanol, ac wrth gwrs un o’r pethau gorau oedd dawnsio mewn storm daranau yn y parti cloi!’

View this post on Instagram

A nice painting day!! #rwcmdglutz

A post shared by RWCMD Puppetry 2019 – GLUTZ (@rwcmdglutz) on

View this post on Instagram

Louis and Darren #rwcmdglutz

A post shared by RWCMD Puppetry 2019 – GLUTZ (@rwcmdglutz) on

 

View this post on Instagram

Drawings by Ruby Brown #rwcmdglutz

A post shared by RWCMD Puppetry 2019 – GLUTZ (@rwcmdglutz) on

Rhoddodd taith Prâg gyfle gwych hefyd i’r myfyrwyr rwydweithio gydag artistiaid o bob rhan o’r byd. Yna gwnaethant berfformio Glutz yn y Coleg ar gyfer ysgolion a chynulleidfaoedd ym mis Mehefin.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio yma.

Storïau cysylltiedig

Video: Puppetry in Prague