Yn ôl i brif wefan CBCDC

Isaac Shieh yn Cyrraedd Rownd Derfynol Cystadleuaeth y Gymdeithas Corn Rhyngwladol

23 Gorffennaf 2019

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Perfformio Hanesyddol
Pres

Mae Isaac Shieh, y myfyriwr corn sy’n astudio ar y cwrs ôl-radd, wedi torri record byd. Ynghyd â 401 o gyd-chwaraewyr y corn gwnaethant ffurfio’r Ensemble Corn Ffrengig mwyaf erioed, gan gyd-chwarae yn Sgwâr Eglwys Gadeiriol Ghent pan gynhaliwyd Symposiwm y Gymdeithas Corn Rhyngwladol (IHS) am y 51fed tro wythnos ddiwethaf.

Yn aml cyfeirir at y gynhadledd fel y cynulliad blynyddol mwyaf o chwaraewyr corn – a nawr mae’n swyddogol, a hynny dan oruchwyliaeth y Guinness Book of Records!

Roedd Isaac yno hefyd fel un oedd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Corn Naturiol yr IHS.

Llynedd perfformiodd fel yr unawdydd yng Ngŵyl Cymdeithas Corn Prydain, ac ef oedd perfformiwr hanesyddol cyntaf i ennill Cystadleuaeth Concerto y Coleg.

 

 

Yn wreiddiol o Hong Kong, mae Isaac wedi perfformio gyda cherddorfeydd ledled y byd, ac yn ogystal â cherddoriaeth cyfnod, bydd yn perfformio repertoire amrywiol, ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn ailddarganfod gweithiau nas perfformir yn aml. Bydd hefyd yn cydweithio gyda chyfansoddwyr rhyngwladol, gan gyflwyno perfformiadau premiere o weithiau newydd yn rheolaidd, gyda llawr ohonynt wedi’u hysgrifennu ar ei gyfer ef.

Cefnogir hyfforddiant Isaac yn y Coleg gan ysgoloriaeth Elusen Clive a Sylvia Richards.

Ymunodd ei diwtor yng Ngholeg Brenhinol Cymru, y chwaraewr corn cyfnod nodedig Anneke Scott, yn yr ensemble enfawr a dorrodd y record, a pherfformiodd hefyd yn natganiad agoriadol y Gynhadledd ddeuddydd, gan lansio ei llyfr ar y corn naturiol. Dyfarnwyd Gwobr Punto nodedig yr IHS iddi yn y digwyddiad fel cydnabyddiaeth o’i gwaith.

Gallwch ddarllen mwy am Isaac yma: isaacshieh.com