Yn ôl i brif wefan CBCDC

Gŵyl Ymylol Caeredin 2019

Unwaith eto eleni roedd myfyrwyr presennol CBCDC a chynfyfyrwyr yn manteisio i’r eithaf ar Ŵyl Ymylol Caeredin, gan weithio ar a chefn llwyfan yng ngŵyl gelfyddydau fwya’r byd.

Roedd myfyrwyr Rheoli Llwyfan a Rheolaeth yn y Celfyddydau unwaith eto’n rhedeg Venue 13, sydd erbyn hyn yn 23 oed, gan groesawu dros 1,500 o aelodau’r cyhoedd dros gyfnod o dair wythnos.

https://www.facebook.com/Fringe.Venue13/posts/2423545341032541?__xts__[0]=68.ARAaxlAeGa-Nd4YQXbd8VT4f6qfiQDo7dqTrGv0ITkztYQQ0E4HQ48gzojWkVKMT3prmfBA5BWkjP_5cphvGzvMZ0Wc0zpJomG1lNOlhxOc3Djh08IYitPbxaBi3JZ9yagrSy08MRrqKcFO3Z9DzXYcEXJzdQnYh4bJts24QOxqRgjdNL43mQf5mflGS7KC8lxF-9rbYfNGOe-Y_TOrVr59krvWybhD7xsMtujDqZm8aE_9vy03RtyRCtIeuHm8kcTkUnEASGX3FjSVYpAsUlYAJdXyoMC7PXanc5796GkRfg8OOREB7Dex_nkpAfzxUJkLPLWWLEYF31ZdH0zQGYcBPew&__tn__=-R

Roedd y 141 o berfformiadau yn amrywio o ddramâu, sioe gerdd, dawns, syrcas i berfformiad aml-gyfrwng a’r gair llafar, gan weithio gyda 61 o berfformwyr o dros saith o wledydd yn cynnwys Canada, Gwlad Belg ac Awstralia.

Sioeau yn cynnwys Shreds – the Jack the Ripper Musical, sydd wedi’u hysgrifennu gan gyn-fyfyriwr y Coleg Lesley Ross a James Williams, gyda chyn-fyfyriwr Theatr Gerddorol Andrew Machin un chwarae’r brif rôl a chyn-fyfyriwr diweddar Sioned Evans yn gyfeilydd

Rhoddodd Venue 13 hefyd lwyfan i ddrama un dyn y myfyriwr actio presennol Benjamin McCann, Grit, a ddechreuodd ei bywyd fel Asesiad Diwedd Blwyddyn, y gwnaeth wedyn ei hailweithio i greu sioe yng Nghaeredin.

Roedd sioe ôl-apocalyptaidd Ben, a ganmolwyd gan y beirniaid yn ystod ei chyfnod yn yr Ŵyl Ymylol, yn darlunio bywyd cyn reolwr archfarchnad sy’n cael ei blymio i sefyllfa anhygoel o unigedd and goroesiad.

Gwnaeth Sophie Melville, un o raddedigon CBCDC, ddychweliad buddugoliaethus i’r ŵyl, gan ailadrodd ei champ o ennill Gwobr Stage Edinburgh yn 2015 am y sioe hynod lwyddiannus Iphigenia in Splott. Eleni enillodd wobr ‘cydnabod perfformiad rhagorol yn y Fringe’ am ei rôl yn nrama Charlotte Josephine Pops, ynghyd â’i chyd-berfformiwr Nigel Barrett.

Yn ogystal â chynhyrchu sioe un fenyw ei chyd-fyfyriwr graddedig actio Remy Beasley, Do Our Best, daeth Francesca Moody â dwy ddrama arall i’r ŵyl. Enillodd un o’r rhain, Baby Reindeer gan Richard Gadd, hefyd wobr Fringe First, gan ychwanegu at restr hir Francesca o wobrau Fringe First, a ddechreuodd gyda chynhyrchiad llwyddiannus Fleabag.

https://www.instagram.com/p/B1j_LTynLUm/?utm_source=ig_web_copy_link

Storïau cysylltiedig

Myfyrwyr Rheoli Llwyfan yn ymddangos ar Raglen Gŵyl Caeredin y BBC