Yn ôl i brif wefan CBCDC

Ysgrifennu Newydd: Fringe, Fleabag a Ffrindiau

12 Medi 2019

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Cyfarfu’r graddedigion actio Remy Beasley a Francesca Moody gyntaf yn CBCDC yn 2010 tra’r oedd Francesca yn astudio ar gyfer ei gradd MA.

Maent newydd ddod ynghyd unwaith eto i gyflwyno Do Our Best, ‘Awr ryfeddol o theatr emosiynol, ymdrwythol, doniol ac annymunol’ yn ôl Broadway Baby, yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni.

Remy a ysgrifennodd ac a berfformiodd y ddrama un fenyw am alar a’r Geidiau, a gynhyrchwyd gan Francesca, sy’n fwyaf adnabyddus am ddod â’r ddrama ryfeddol Fleabag i sylw’r cyhoedd am y tro cyntaf yn yr Ŵyl Ymylol yn 2013.

Remy yn Do Our Best

Ar hyn o bryd mae Francesca, a ddaeth yn Aelod Cyswllt Anrhydeddus o’r Coleg y tymor diwethaf, yn cynhyrchu dychweliad hirddisgwyliedig Fleabag yn y West End.

Bu’r ddwy’n siarad gyda ni am sut y gwnaeth eu cyfnod yn y Coleg roi gymaint o ‘brofiadau serendipaidd’ iddynt a’r hyder, y cyfleoedd a’r cysylltiadau i ddilyn eu llwybrau gyrfaol eu hunain: hyrwyddo, creu a chynhyrchu ysgrifennu newydd.

Tra’n astudio am ei gradd MA, fe wnaeth Francesca, sydd erbyn hyn wedi derbyn saith gwobr Fringe-Firsts, gyfarfod â Vicky Jones a fu’n ei chyfarwyddo yng nghynhyrchiad y Coleg o The Cherry Orchard. Vicky hefyd yw cyd Gyfarwyddwr Artistig Drywrite gyda Phoebe Waller-Bridge. Mae’r gweddill, fel y gŵyr pawb ohonom, yn hanes Fleabag.

Francesca yn cynhyrchiad 2010 y Coleg o The Cherry Orchard, cyfarwyddwyd gan Vicky Jones. Llun: Kirsten McTernan

“Er na wnes i yn y diwedd ddilyn gyrfa fel actor, roedd fy nghyfnod yn CBCDC yn hynod bwysig yn fy ngyrfa fel cynhyrchydd.

Yn y pen draw, y rheswm pam y des i gynhyrchu Fleabag, y trobwynt yn fy ngyrfa fel cynhyrchydd, oedd am i mi gyfarfod Vicky yn y Coleg,” eglura Francesca, y mae ei chwmni Francesca Moody Productions hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu, ymhlith nifer o bethau eraill, Baby Reindeer a ganmolwyd gan y beirniaid yn y Fringe a bydd yn symud i Theatr Bush yn Llundain yr hydref hwn.

“Yr hyn roeddwn yn ei fwynhau am y cwrs MA actio oedd nad oedd gwahaniaethu rhwng y myfyrwyr BA ac MA unwaith yr oeddem mewn perfformiadau a sioeau gyda’n gilydd. Rhoddodd hyn hyder i ni gyd yn ein galluoedd.”

“Atgyfnerthodd yr hyfforddiant galwedigaethol yn CBCDC fy niddordeb mewn dramâu newydd – a’r math o waith yr oeddwn am ei weld ar lwyfan – a wnaeth yn y pen draw fy arwain at gynhyrchu hefyd oherwydd yr hyn oedd yn bwysig i mi oedd cymryd rheolaeth a chyflwyno gwaith yr oeddwn i am ei weld ar lwyfan.”

Fe wnaeth hefyd wrth gwrs gyfarfod â Remy yno ac erbyn hyn maent yn cydweithio. Mewn cyfweliad yn y Guardian, sy’n galw Francesca yn ‘Fleabag super-producer’, meddai am Remy, “Fel Phoebe, mae’n un o’r bobl hynny yr ydych yn cael eich denu ati. Mae’n adroddwr stori heb ei hail, yn naturiol o ddoniol, dim ofn bod yn hyll ar lwyfan.”

“Fel cynhyrchydd, mae’r berthynas gyda’r ysgrifenwyr yn hollbwysig,” meddai wrthym, “a’r sioeau gorau a mwyaf llewyrchus yw’r rheini lle rydw i wedi ymroi amser ac egni yn person yr wyf yn gweithio gyda hwy – a dyna pam rydw i o’r farn bod Do Our Best yn gwneud cystal”

Roedd Remy, a arferai hefyd weithio gyda Stiwdio Actorion Ifanc y Coleg, yn rhan o gynhyrchiad y Coleg o Spring Awakening, a ysgrifennwyd gan Gary Owen a’i gyfarwyddo gan George Perrin, ac aeth ymlaen, gyda James Grieve, i ddod yn gyd gyfarwyddwyr artistig Paines Plough – un o bartneriaid allweddol y Coleg ar gyfer NEWYDD, er mwyn hyrwyddo ysgrifennu newydd.

Remy yn cynhyrchiad 2010 y Coleg o Harvest. Llun: Kirsten McTernan

“Cwrdd â George oedd fy nghyflwyniad i’r byd ysgrifennu newydd,” meddai Remy. “Roedd yn foment gwirioneddol serendipaidd – fi’n cael fy nghastio ac ef yn cyfarwyddo. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl greadigol cyffrous drwy’r un cyfarfyddiad hwnnw yn y Coleg.”

Tair blynedd yn ôl roedd yn perfformio yng ngŵyl Roundabout yn Paines Plough, lle daeth i gysylltiad eto â Francesca.

“Mae Francesca wedi bod yn arbennig o gefnogol i Do Our Best, ac wedi gwneud i’r ddrama ddigwydd. Fe wnaeth ymddiried ynof a gadael i mi greu’r hyn yr oeddwn am ei wneud.

Roedd yn brofiad ysgogol dros ben i gael rhywun yn dweud ‘Rwy’n credu y galli wneud hyn ac rydw i’n teimlo y bydd yn wych’. Roedd yn gadarnhaol iawn a dyna’r cyfan y mae’n ei gymryd i roi’r hyder i chi gyflawni pethau.”

Mae Remy yn diolch i’r Coleg am feithrin ac annog ei hysgrifennu:

“Roedd Asesiadau Diwedd Blwyddyn y Coleg yn gyflwyniad da i ysgrifennu ein deunydd ein hunain. Roedd yn rhaid i bawb ohonom ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio ein dramâu ein hunain ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a’r ail.

Hefyd yn yr ail flwyddyn, aeth y pennaeth hyfforddiant actorion Dave Bond â rhai ohonom, gan gynnwys Kat Pearce a Lewis Reeves, ar gwrs ysgrifennu yn nhŷ Paul Abbot, ac roedd hwn yn brofiad dysgu gwych.

Mae hwn yn gyfnod rhagorol ar gyfer ysgrifenwyr a pherfformwyr sy’n fenywod. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli’n fawr gan Ruth Jones, un arall a raddiodd o CBCDC, y gwnes weithio gyda hi ar ei sioe Stella, Julia Davies, Susie Wokoma, Daisy May Cooper, Michaela Coel…

Mae nifer fawr o fenywod rhyfeddol allan yna yn gwneud pob math o waith, nid dim ond y rheini sydd i’w gweld ar y teledu.”

Darllenwch rai o’r adolygiadau Do Our Best:

Broadway Baby, Ayoungertheatre.com

Evening Standard