Yn ôl i brif wefan CBCDC

Stondin Efrog Newydd 2019

23 Medi 2019

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Gan ddilyn ymlaen o’n Gala Efrog Newydd ar gyfer Catherine Zeta-Jones ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd y Coleg yn dychwelyd i galon ardal theatrau America ar gyfer ei Stondin UDA flynyddol a gynhelir yn Signature Theatre ar 42nd Street.

Austin Hunter

Mae’r Stondin, sydd erbyn hyn yn ei phedwaredd flwyddyn, yn gweithredu fel sbringfwrdd i’r diwydiant gan roi cyfle i raddedigion diweddar ym meysydd actio a theatr gerdd o America a Canada berfformio gerbron asiantau, rheolwyr, cyfarwyddwyr castio a gwesteion o’r diwydiannau adloniant yn America.

Jamie Cook

Ryan Downey

Meddai Dave Bond, Cyfarwyddwr Perfformio yn CBCDC:

“Mae diwydiannau darlledu a theatr UDA wastad wedi cydnabod yr angen am hyfforddiant trylwyr a thechneg gadarn ac rydym wedi gweld archwaeth gynyddol am ein graddedigion yn y blynyddoedd diwethaf.

Rydym yn croesawu’r cyfle a’r fraint i ddwyn ein graddedigion i’w sylw, gan obeithio y gallant sicrhau cynrychiolaeth a chyfleodd am gyflogaeth y mae eu doniau, angerdd ag etheg gwaith yn eu haeddu.”

Grace Quigley

Bydd y Coleg yn cynnal clyweliadau yn Chicago ac Efrog Newydd bob blwyddyn.