Yn ôl i brif wefan CBCDC

Enwebiad BAFTA Cymru i’r Cynllunydd Cynhyrchu James North

Mae James North, a raddiodd mewn Cynllunio ar gyfer Perfformiad ac sydd hefyd yn Gymrawd y Coleg, wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr BAFTA Cymru am Gynllunio Cynhyrchiad cyfres un o Discovery of Witches.

Yn seiliedig ar y drioleg boblogaidd gan Deborah Harkness, cynhyrchir y ddrama ffantasi ar gyfer Sky One gan gwmni cynhyrchu Bad Wolf o Gaerdydd.

Cipolwg ar Gyfres 2, mae’r academydd a’r wrach ifanc Teresa Palmer a’i chariad y fampir cyfareddol (Matthew Goode) yn canfod eu hunain yn Blackfriars yn yr unfed ganrif ar bymtheg

Yn yr ail gyfres cawn weld Matthew a Diana yn cael eu cludo’n ôl i Loegr yn Oes Elisabeth, a mae’n waith James (gyda chymorth tîm o raddedigion CBCDC) i greu’r byd mae’r cymeriadau yn byw ynddo.

Cyn hyn James oedd y Cyfarwyddwr Celf Goruchwyliol ar y gyfres gyntaf His Dark Materials, gyda Dafne Keen, Ruth Wilson, James McAvoy a Lin-Manuel Miranda ymhlith eraill yn serennu.

Caiff yr epig antur ffantasi hon hefyd ei chynhyrchu gan Bad Wolf yng Nghaerdydd, a bydd yn cael ei dangos gyntaf ar BBC One fis Tachwedd hwn.

Felly, pam ei fod yn cyflogi cymaint o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym meysydd Cynllunio ar gyfer Perfformiad a Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol?

“Nid dim ond cynllunwyr sydd eu hangen arnom, rydym angen pobl sydd wedi’u trwytho yn y grefft gyfan, sydd â’r profiad ymarferol a’r gallu technegol i eistedd yn unrhyw le o fewn adran gelf ym maes teledu.

Y peth gwych am raddedigion CBCDC yw bod ganddynt etheg gwaith rhagorol, a set o sgiliau cyflawn, cadarn. Golyga hyn y gallant fynd i’r afael â’r gwaith ar unwaith pan fyddant yn ymuno â ni.

Gan fod y graddedigion wedi gweithio ar rep gyda Chwmni Richard Burton y Coleg, mae ganddynt lu o brofiadau ymarferol ar draws y maes, nid cynllunio yn unig ond mewn adeiladu a chreu modelau, er enghraifft.

Er efallai mai yn y theatr y mae’r gwaith hwn, mae’r rhain i gyd yn sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y byd teledu, yn ogystal â’r ffaith bod myfyrwyr yn treulio cyfnodau ar leoliad mewn gwaith teledu yn ystod eu cwrs.”

Mae James wedi gweithio ei ffordd drwy’r rhan fwyaf o brif gyfresi teledu’r degawd diwethaf, gan ddechrau fel Cyfarwyddwr Celf cynorthwyol ac yna Cynllunydd Cyswllt ar Doctor Who, drwy Torchwood, Line of Duty a Da Vinci’s Demons, cyn symud i Gynllunio Cynhyrchiad.

Gwnaeth Zsofia Ekler radd mewn Pensaernïaeth a Pheirianneg cyn dod i CBCDC i astudio MA mewn Cynllunio ar gyfer Perfformiad. Drwy James, cafodd ei swydd teledu gyntaf ar Da Vinci’s Demons fel dylunydd cynorthwyol. Ers hynny mae wedi gweithio ar wahanol gynyrchiadau yng Nghymru mewn rolau dylunio a chynllunio set.

Cynlluniodd Zsofia y set at gyfer fersiwn Oes Elisabeth Blackfriars yn Llundain.

 

Dechreuodd y Rheolwr Lleoliadau Cynorthwyol Holly Voice astudio Rheoli Llwyfan yn y Coleg, ond sylweddolodd yn fuan ei bod am fynd i gyfeiriad gwahanol:

“Gyda diwydiant teledu mor ffyniannus yng Nghymru, anogodd fy narlithydd fi i ganolbwyntio ar hynny.

Treuliais ddau gyfnod ar leoliad tra roeddwn yn y Coleg, un gyda chwmni lleoliadau o Gymru sy’n arbenigo ym meysydd teledu, ffilm a digwyddiadau, a sylweddolais fy mod wrth fy modd yn gweithio yn yr adran lleoliadau.

Felly am weddill y cwrs canolbwyntiais ar fynd am yrfa ym myd teledu. Cefais swydd, ychydig cyn graddio, gyda’r cwmni lleoliadau olaf y gwnes dreulio cyfnod gydag ef.”

Mae Discovery of Witches hefyd yn cynnwys y graddedigion diweddar Edward Bluemel a Jacob Ifan yn y cast.

Cewch ragor o wybodaeth am James yma: http://www.jamesnorthdesign.com/

Cewch ragor o wybodaeth am y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformiad yma:

Mae Bad Wolf yn cefnogi ysgoloriaeth yn CBCDC a’r flwyddyn nesaf bydd yn noddi Cwmni Richard Burton y Coleg.

 

Llun cyhoeddusrwydd: Bad Wolf Productions