Gydag 20 cynhyrchiad bob blwyddyn gan Gwmni Richard Burton yn unig, cedwir ein Rheolwryr Llwyfan yn brysur iawn.
Bu’r Rheolwr Llwyfan Gemma Smith yn gweithio ar un o ddramâu cyntaf y flwyddyn newydd hon, London Wall.
Iddi hi, mae rheoli llwyfan yn ymwneud cymaint â bod yn drefnus ag ydyw am fod yn ddatryswr problemau sy’n hawdd siarad ag ef hi:
“Mae bywyd fel Rheolwr Llwyfan yn brysur ond yn werth chweil. Yr her fwyaf yw rheoli amser a dirprwyo gwaith i aelodau’r tîm.
Fodd bynnag, gweld y sioe yn dod ynghyd o’r gwaith gosod i’r perfformiad cyntaf yw elfen fwyaf pleserus y swydd. Mae’n gwneud i chi sylweddoli bod wythnosau olaf y cyfnod cyn-gynhyrchu yn werth yr ymdrech.”
Er iddo fod yn waith caled, dywed Gemma bod ei chyfnod yn y Coleg wedi bod yn amhrisiadwy o ran ei pharatoi ar gyfer ei gyrfa broffesiynol.
“Roedd London Wall yn heriol gan fod llawer yn digwydd tu ôl i set a oedd yn dwyllodrus o syml, felly roedd angen llawer o drefnu a chynllunio.
Mae gweithio ar y sioe hon wedi bod yn gyfle gwych ac mae wedi bod yn garreg lamu cyn gadael CBCDC a mentro i’r byd proffesiynol.
“Fe fyddaf yn drist i adael y Coleg, ond nawr rwy’n teimlo wedi’n paratoi yn llwyr ar gyfer bywyd yn y diwydiant ac mae’r hyn sydd o’m blaen yn fy nghyffroi.”
“Fy nghyngor gorau yw peidio cynhyrfu, bod yn rhywun hawdd sgwrsio â chi a bod yn barod i helpu,” meddai.
“Mae creu awyrgylch digynnwrf a di-straen yn ystod y cynhyrchiad cyfan yn caniatáu i bopeth redeg yn esmwyth.”
https://www.instagram.com/p/B3cG56JgFi7/
Gellir cael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau ar ein gwefan.
Storïau cysylltiedig
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook