Yn ôl i brif wefan CBCDC

Ar Daith gydag Adran Pres CBCDC

30 Hydref 2019

Ffeiliwyd o dan:

Pres

Aeth adran Pres CBCDC ar daith am y tro cyntaf yn ystod y tymor diwethaf gyda gweithdy Ar Daith er mwyn helpu pobl ifanc o bob cefndir ledled De Cymru i gael mynediad at y celfyddydau perfformio.

“Mae gweithdai Ar Daith yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â’r celfyddydau, i ddatblygu hyder personol drwy gymryd rhan mewn cerddoriaeth fyw, ac i helpu i feithrin teimlad o gymuned a hunaniaeth,” eglura Pennaeth yr Adran Pres Roger Argente.

“Maent hefyd yn rhoi cefnogaeth ac adnoddau y mae mawr eu hangen ar athrawon er mwyn cyflwyno’r cwricwlwm cerddoriaeth.”

Wedi’i ariannu gan Hern & Crabtree ac Arts & Business Cymru, bu dros 22 o berfformiadau hyd yn hyn mewn deunaw ysgol wahanol lle mae ein myfyrwyr wedi chwarae i dros 3,250 o blant, gyda llawer mwy o ymweliadau i ddod dros y flwyddyn academaidd nesaf.

https://www.instagram.com/p/Byk9KDXhsdn/

https://www.facebook.com/aandbcymru/photos/basw.AbpmqWZbTvqGKkswcabwpAqHjVsEF0dov4qnyPRXw3v2PdcYggxmtj1G3AN5I_iAYuaX8frn3acPw6GgsfolvVwPXDx7GAzA_Z9_ypYnifBPXpUSNnnqTa5vRvQRqF5OvMKkQjh2ZbwnXSJOq7M0tBeKTv-4Fd-nLkh1w7maZxJM9w.2168278923225535.338896300139135.338896273472471/2168278923225535/?type=1&opaqueCursor=AbryDn4B9IlmniWAF4oolaz8aKZFhM0aCRi5MYpWIisO3XfnzjBrt_KCTBV9A5FmNpchZ85D-rCmRGXLYLDdPxCqRCm5OI8WOt9dNabYQVSR-eJ983Cd3r0DbhPXIJM0_QxgeUp-xu0cF6QsNEpjuCo86tHnQjUjgE4Hp_HON2xX0CYSPCgEzl4ECUXqOFVEr4-ZOsiEmMgSQqLDYTo1RrZ4eg-dOCDwLBD0kBktGn9oud0QPnLm-Qtj34A7vRPEt4hpjEUN0GF7i3pFApzVX-_bDqh47fSGPdhbEW_FRjTBmZxXvS6Nxopy-k8XRUKTzKOMmuHyHlx9Bq1ZACq25ODlhesnjPctV1pCIAH6pcxUe6xH1kvO_bcNQOL9npXPdf4X2G2BHrLOmWXfugx94kn_aE4YtEyo9GlRMkuQv2wv-0VLnFdMVqeM7yVC5RXQCF2Mt5i9FEAdBWuIgIdaeha6p0fAeudO4Fd4LdYnFXJAmynA5lIMUoEAAvMYVE4Ng6EzUhUvzEEILee3v4JjxmpjbkNIaOGmKv2Kv8hz52I4hadWhkuom4-CzsG3NO6blMieDtj7Lt2zMYYhxbZvWBcv7BgNXzPb1CPUEoRTBkjXIGTzLznqMyV5_goTrYACD6CIY2nzNc5yLj-QkDHTTzeJ&theater

Pumawd pres Flora Brass fu’n arwain y prosiect y tymor hwn.

“Mae Ar Daith yn bwysig iawn i ni fel pumawd oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i ni fynd allan a pherfformio i bobl.

“Mae gweld y plant yn mwynhau yn gwneud popeth yn werth yr ymdrech,” meddai Bethany Peck, un o aelodau Flora Brass.

“Mae’r perfformiadau hefyd wedi rhoi hwb mawr i’n hyder wrth siarad yn gyhoeddus fel ensemble. Rydym wedi dysgu sut i ymgysylltu â’r plant mewn modd hwyliog a llawn gwybodaeth.”

“Ein gobaith yw ehangu Caiff ar Daith drwy weddill Cymru, ac i’r prosiect ddod yn rhan annatod o weithgareddau’r Coleg dros y blynyddoedd i ddod,” meddai Roger.

I weld y newyddion diweddaraf, dilynwch #RWCMDOnTheMove.

Cefnogir Ar Daith gan Hern & Crabtree a Chelfyddydau & Busnes Cymru.

Rhagor o wybodaeth am astudio pres yn y Coleg.

Storïau cysylltiedig

http://blog.rwcmd.ac.uk/2018/03/14/graduate-chris-wins-philip-jones-brass-prize/