Yn ôl i brif wefan CBCDC

Croeso i’n Myfyrwyr Rhyngwladol!

15 Tachwedd 2019

Rydym yn estyn croeso i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd i deulu CBCDC!

Wrth i ni gynnal clyweliadau mewn dinasoedd ledled Asia a Gogledd America rydym yn croesawu’r myfyrwyr mwyaf addawol a dawnus o dros 45 o wledydd, ynghyd â llif cyson o artistiaid ac athrawon o bedwar ban byd.

Mae amrywiaeth a chyfnewid diwylliannol yn rhan annatod o brofiad holl fyfyrwyr y Coleg.

“Gall llais y celfyddydau rychwantu cenhedloedd mewn modd na all nifer o bynciau eraill, ac mae Caerdydd wastad wedi bod yn ddinas sy’n edrych tuag allan – arferai fod yn borthladd mawr pwysig yn allforio i bob rhan o’r byd,” meddai Brian Weir, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr, wrth siarad gydag Wales.com ar gyfer yr erthygl “Helping New Talent take the Stage”.

“Rwy’n credu bod ein gallu i gofleidio diwylliannau eraill wedi’i wreiddio yn enaid y ddinas.
Ond credaf hefyd bod cyfoeth diwylliant Cymru a’r hyn y gallwn ei gynnig i’r byd yn rhywbeth nodedig iawn, ac sydd angen ei ddathlu. Wrth i’r Coleg fynd allan i’r byd, daw’r byd atom ni.”

Cawsom air gyda rhai o’n myfyrwyr rhyngwladol presennol a chynfyfyrwyr ynglŷn â’u cyfnod yn CBCDC:

Yuki Minami, Japan
Piano

“Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau ac athrawon rhyfeddol. Mae wedi rhoi llu o gyfleoedd gwych i mi i berfformio sydd ac wedi fy annog.”

Kanoko Tobe, Japan
Rheolwr Llwyfan

“Mae’r cyfleoedd, y profiadau ymarferol a’r cyfleusterau a ddarparwyd gan y Coleg yn ardderchog. Mae’r profiadau hyn yn rhai na fyddwn byth yn eu cael gartref.”

Johnna Dias-Watson a Lila Jones, UDA
Actorion

“Mae Coleg Brenhinol Cymru yn ail gartref delfrydol i ni. Mae wedi rhoi’r gefnogaeth oedd ei hangen arnom ar gyfer trawsnewidiad mawr!”

Kie Yamamoto, Japan
Cynllunio Set a Gwisgoedd

“Rydw i wedi mwynhau gymaint gweithio yma – mae’r teimlad o gymuned a chydweithredu mor gryf.”

Tianyi Lu, Seland Newydd
Arwain

“Mae cael y cyfle i weithio gyda myfyrwyr eraill yn wych – mae yma gymaint o bobl ddawnus o bob rhan o’r byd.”

Jonas Seetoh, Tsieina
Jazz

“Mae’r athrawon yma yn wych, maent yn ysbrydoledig. Rydw i wedi bod yn hapus dros ben yma.”

Dysgwch fwy am sut y gallwch ddod yn fyfyriwr rhyngwladol yn y Coleg.

Diolch i Wales.com am yr erthygl hon. Gallwch ei darllen yn llawn yn Wales.com.