Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cyfle i gwrdd â’r Rheolwr Llwyfan Benywaidd Cymwysedig Cyntaf o Balesteina…

15 Tachwedd 2019

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu
Rheoli Llwyfan

Dyma Jihan Rezeqallah!

Er mai Jihan yw’r myfyriwr Rheoli Llwyfan benywaidd cyntaf o Balesteina i ennill diploma yn y maes, nid yw hynny’n golygu ei bod wedi cyflawni ei huchelgais:

“Fy mreuddwyd yw rheoli llwyfan seremoni wobrwyo y Grammys a’r Oscars yn yr Unol Daleithiau.

Er bod gen i brofiad mewn rheoli llwyfan, rydw i eisiau canolbwyntio ar Reoli Digwyddiadau.

Hoffais y cwrs hwn yn fawr o’r dechrau gan ei fod mor ymarferol. Dydw i ddim eisiau eistedd mewn ystafell ddosbarth yn dysgu am hyn i gyd, rydw i eisiau profiad o’r gwaith!”

Yn ystod ei hymweliad â Theatr Royal Court Llundain cafodd Jihan y cyfle i gyfarfod â rhai o actorion, cyfarwyddwr a thîm rheoli llwyfan A History of Water in the Middle East.

Ymunodd Jihan â’r Coleg y tymor hwn i astudio MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau.

Mae ganddi brofiad eang o reoli llwyfan ym mhob rhan o’r byd.

Ar ôl ennill ei diploma yng Nghanolfan Hyfforddiant y Celfyddydau Palesteina bu’n gweithio ym myd y theatr, yn gwneud pypedau, creu gwisgoedd a hynny’n lleol a rhyngwladol.

Jihan yng nghysgod un o’i phypedau anferth a grëwyd ar gyfer Theatr Al-Harah ym Mhalesteina.

Mae wedi teithio ledled Ewrop ac Asia, yn fwyaf diweddar fel technegydd ar gyfer syrcas o’r Ariannin, a chyn hynny bu’n gweithio yn Japan fel rheolwr llwyfan cynorthwyol a thechnegydd ar gyfer sioe o’r Iseldiroedd. Ym mis Mehefin roedd hi’n ôl yn gweithio yn ei mamwlad ar ddrama am ladd ar sail anrhydedd gyda theatr Al-Harah, yn gweithio’n llawrydd.

“Mae’n freuddwyd i mi fod yma yng Ngholeg Brenhinol Cymru.

Mae pawb mor groesawgar, o’r adran mynediadau i’m hathrawon. Mae’r system gefnogaeth yn wych yma ac rwy’n teimlo fy mod yn cael fy meithrin a’m gwerthfawrogi.”

Jihan yn Theatr Royal Court Llundain

Yr wythnos hon aeth Jihan ar ymweliad tu ôl i’r llenni yn Theatr Royal Court Llundain lle perfformir A History of the Water in the Middle East gan yr Eifftes o Brydain Sabrina Mahfouz ar hyn o bryd.

“Roedd ymweld â’r Royal Court yn hynod gyffrous! Roedd pawb mor groesawgar a charedig.

Fe aethon nhw â mi o amgylch y theatr a chefais weld a gweithio gyda pheth o’r offer hefyd.

Dysgais gymaint a chefais lawer o gyngor ynglŷn â sut i fod yn Rheolwr Llwyfan proffesiynol. Rydw i mor ddiolchgar iddynt am fy ngwahodd ar y daith wych hon, a byddaf yn sicr yn defnyddio’r profiad a gefais yn y dyfodol.”

Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Arcadia fel rhan o’r cynyrchiadau Cwmni Richard Burton nesaf, ac yna bydd yn gweithio ar ddigwyddiadau mawr yn y Coleg yn ogystal â lleoliadau gwaith allanol.

Crëwyd Theatr Al-Harah ym Methlehem, tref enedigol Jihan, yn 2005 i gyflwyno storïau o ddiddordeb i gynulleidfaoedd ym Mhalesteina. Mae gan y theatr bartneriaethau ledled y byd, yn cynnwys yn y DU.

Yng Ngwersyll Haf y Celfyddydau Theatr Al-Harah ym Mhalesteina bu Jihan yn gweithio gyda phlant rhwng 7 a 13 oed.

A hithau heb incwm rheolaidd i dalu costau rhedeg, a gyda datblygiad y celfyddydau perfformio wedi’u hesgeuluso oherwydd y sefyllfa wleidyddol ac economaidd, mae hyfforddi fel gweithiwr theatr proffesiynol yno wedi golygu llawer o heriau.

Sefydlodd Al-Harah Ganolfan Hyfforddiant y Celfyddydau Perfformio yn 2014 i gynnig hyfforddiant mewn popeth o reoli llwyfan i gynllunio goleuo a sain er mwyn rhoi’r potensial i gynnal twf newydd ym mywyd creadigol Palesteina.

Mae Jihan yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan Bad Wolf ac Ysgoloriaeth Mary Webber yn ogystal â chyllid gan y cyfarwyddwr Phyllida Lloyd a ffrindiau a theulu.

Cyfweliad gyda Power Group fel Rheolwr Llwyfan ar gyfer gŵyl theatr ryngwladol Palesteina ar gyfer plant a phobl ifanc.

Storïau cysylltiedig

Rheoli Llwyfan Cwmni Richard Burton

Dewch i gwrdd â’n Hathro Cadair Rhyngwladol mewn Rheoli Llwyfan: Tim Routledge