Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cynllunio Theatr: Dau enillydd Gwobr Linbury i CBCDC

4 Rhagfyr 2019

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu
Cynllunio ar gyfer Perfformio

Mae’r adran Cynllunio ar gyfer Perfformio yn dathlu dwy fuddugoliaeth gyda TK Hay a Rose Revitt yn ennill dau o’r pedwar comisiwn yng Ngwobr Linbury o fri eleni.

Cynrychiolwyd y Coleg gan hanner y rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni, gyda chwech o’r deuddeg o raddedigion yn gweithio gyda phedwar cwmni cynhyrchu.

Cynlluniodd Rose y set ar gyfer cynhyrchiad o ‘The Wolves’ llynedd. Llun: Kirsten McTernan

Bydd TK nawr yn cynllunio An Adventure ar gyfer Theatr Octagon, Bolton, ar ôl cystadlu yn erbyn un o’i gyd-raddedigion CBCDC Aline Jeffery.

Cynllun TK ar gyfer ‘The Hunchback of Notre Dame’

Bydd Rose yn cynllunio Dr Korczak’s Example ar gyfer Leeds Playhouse, lle bu’n fuddugol yn erbyn cyd-raddedigion CBCDC Debbie Duru ac Elin Steele.

Roedd Harry Pizzey yn ail orau gyda Birmingham Royal Ballet.

“Gwobr Linbury yw’r digwyddiad pwysicaf ar gyfer ein graddedigion,” meddai’r Cyfarwyddwr Drama, Sean Crowley.

“Bob dwy flynedd mae’n rhoi cyfle euraidd i’n myfyrwyr brofi eu gallu yn erbyn y myfyrwyr Cynllunio gorau o bob rhan o’r DU.

Mae cael chwech yn y rownd derfynol unwaith eto, gyda dau o’r enillwyr yn eu plith, yn hwb enfawr i staff a myfyrwyr yr adran Cynllunio.”

Mae’r wobr ddwyflynyddol ar gyfer Cynllunwyr Theatr, y pwysicaf o’i math yn y DU, yn rhoi cyfle i gynllunwyr addawol weithio gyda chwmnïau theatr, dawns ac opera proffesiynol.
Caiff eu gwaith ei arddangos yn y National Theatre rhwng mis Rhagfyr a mis Ebrill.

Mae enillwyr, a rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol, y wobr ddwyflynyddol yn y gorffennol yn cynnwys Fin Redshaw, Jean ChanRhys Jarman, Tom Scutt, Madeleine Girling, Camilla Clarke, Max Jones ac Adam Wiltshire.

Prif lun yw cynllun TK ar gyfer The Hunchback of Notre Dame. Llun: Kirsten McTernan

Storïau cysylltiedig

Chwech o raddedigion CBCDC yn y Rownd Derfynol Gwobr Linbury 2019